Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU. YOUTH the Psychology of Adolescence and its bearing on the Reorganization oj Adolescent Education, by Olive A. Wheeler, D.Sc., with an Introduction by Sir W. Henry Hadow, C.B.E., D.Mus., Ll.D., D.Litt.: pp. vi.+202. University of London Press, Ltd. Llyfr ydyw hwn y <byddai'n fantais i Grefydd ac Addysg pes dar- llenid ef gan bob gweinidog, pob athro ac athrawes, a holl rieni ein gwlad. Cytfunir ynddo deithi pen a chalon, goleuni'r deall a chyn- hesrwydd ysbryd. Mewn gair, enghraifft hyfryd ydyw'r llyfr ei hun o'r adwaith yn erbyn yr addysg gul-ddeallol a gondemnir gan Proffesor Wheeler ac eraill. At ddibenion neilltuol argyfwng yr ail-drefnu addysgol y sgrifen- nwyd y llyfr, ond y mae iddo werth a oroesa'r cyfnod presennol a'i anghenion. Yn y Rhagair, cyfeiria Syr Henry Hadow at bwysig- rwydd y gyfrol. Professor Wheeler has already made her name in the educational field: her work has aroused expectation which this volume will go far to fulfil. I have learnt a good deal from her book and I cordially commend it." Sonia Dr. Wheeler am y cytfnewidiadau pwysig mewn cymdeithas ac mewn bywyd cyd-wladol yn y ganrif hon, a gesyd bwyslais ar- bennig ar addysg íel ffeithydd anhepgor cyn y byddo diwygiadau allanol yn wir ffrwythlon. Before there can be a functioning democracy they must ibe better educated." Ofer, heb hyn, fydd hyd yn oed Seiat y Cenhedloedd. Yna daw ymdriniaeth dreiddgar â pherthynas Eneideg ag Addysg, gyda chyfeiriadau diddorol at enghreifftiau cymwys yn llenyddiaeth (gyffredinol) ieuenctid, o Jane Eyre hyd Young Woodley John Van Druten. Mynn yr awdur gyfuno'r dulliau dynol a gwy- ddonol, a dyna guddiad cryfder y safbwynt. Manylir ar wahanol gyfnodau twf ieuenctid, ac amhosibl dymuno gwell crynodeb 0 len- yddiaeth Eneideg yr adolesent nag a nodir yma. Un o bethau gorau'r gyfrol ydyw cyfraniad gwreiddiol a newydd yr Athro Wheeler ei hun i lenyddiaeth y pwnc. Lluniodd Ques- tionnaire cynhwysfawr ar Adolescence," yn ymwneud â'r pync- iau a ganlyn :­-diddorion deallol: gwlana neu bencawna (day- dreaming) gwerthfawrogi Natur, Miwsig, Celfyddyd, Barddoniaeth: hyfforddiant cretfyddol: profiad troedigaeth amheuon diddor- deb yn y rhyw arall: syrthio mewn cariad: gwneuthur ffrindiau gwron-addoli: chwilfrydedd am ffeithiau bywyd. Rhoddwyd y gof- yniadau i dri chant o efrydwyr a gweithwyr ym Mhrifysgolion Manceinion a Chymru a dosbarthiadau'r W.E.A., yn cynnwys gweithwyr llaw ac eraill. Y mae'r atebion yn anarferol o ddiddorol. Taflant ffrwd o oleuni newydd a gwerthfawr ar Eneideg yr adoles- ent yn ei wahanol agweddau. Er enghraifft, hoffai mwy na'r hanner ohonynt chwaraeon neu ddiddorion awyr-agored, fel crwydro (ar droed neu ar ddeurod), ffermio, garddio, h.y. ymarfer corff a meddwl