Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ynghyd. Diddorol odiaeth ydyw hyn o'i gyffelybu â'r ysfa "grwydro" ymysg ieuenctid Germani-y sonia'r Athro David Evans amdano yn rhifynnau'r TYST (τ93o),ac â gwersylloedd poblogaidd Mr. Ifan ab Owen Edwards yng Nghymru. Work or play in which the grow- ing mind and the growing body are exercised concurrently sy'n rhoddi'r llawenydd mwyaf yn yr oedran o'r 11 i'r 21. Wrth sôn am werthfawrogi Natur, Miwsig, Celfyddyd a Bardd- oniaeth, traethir ar gyfnewidiadau teimladol y cyfnod. Cyfeirir at y ddamcaniaeth mai yn nheimladau dyn y gwelir gwreiddiau ei gymeriad. Ei sentimentau ydyw'r elfen sylfaenol. Trosir adnodau St. Paul (1 Corinthiaid xiii. 2 a 3) i dermau Eneideg yr ugeinfed ganrif Adnod 2. Though my knowledge is complete, and all my cognitions and beliefs are true, though I see all the universe in its proper proportions, yet if my tfeelings are not what they should be, my character has no absolute worth." Adnod 3. Though my actions are all that could be desired, and my habits are perfect, yet if they do not issue from right feelings, my character has no absolute worth." Symia'r awdures y safbwynt uchod mewn brawddeg If charity is his master-sentiment, all is well with his character." O ganlyniad, y mae cyfnewidiadau teimladol yr adolesent yn estyn cyfle eithriadol i feithrin cymeriad. Pleidia Proffesor Wheeler addysg gyflawn, nid addysg ddeallol yn unig. `` I am come,' said the greatest of all teachers, that they might have life, and that they might have it more abundantly.' O ganlyniad, gosodir pwyslais ar addysg greadigol, gyd-weithredol, gymdeithasol, ysbrydiaethol. All true education is for service and not for domination." Defnyddir yr atebion i'r Questionnaire fel llusern i oleuo conglau cudd cyfnod ieuenctid. Er enghraifft, ceir casgliadau di- ddorol ynglyn â'r types gwahanol ymhlith yr ieuainc ac ychwan- egir yn sylweddol at ein gwybodaeth ar fater y gwahaniaethau en- eidegol rhwng y rhywiau. Y mae'r ymdriniaeth drwyddi draw yn feiddgar a gwreiddiol esiampl o hyn ydyw'r farn a draethir am Rifyddeg, — sef nad yw'n bwnc anhepgor yng nghwrs yr ysgolion newydd. Caiff y mathema- egwyr gryn orchwyl i ddymchwelyd y ddadl (td. 97). Rhoddir pwys, yn ddigon naturiol, ar Fywydeg. Their curi- osity concerning the creativeness of life must be satisfied, and simple biology must therefore maintain its place in both urban and rural central schools." Ar bwnc cyd-addysgu'r ddau ryw, anghytuna â Chylch-lythyr 1350 y Bwrdd Addysg; ac anodd osgoi'r casgliad mai'r critig sy'n iawn ar y pen hwn. Nid beirniadaeth ddinistriol yn unig a welir yn y llyfr, o bell ffordd, e.e., .sylwer ar yr awgrym- iadau ar dudalen no, (penodi trained fsychologists yng ngwasan- aeth yr Awdurdodau Lleol, i ddewis a thestio plant, a'u cyfarwyddo yngl}^ â dewis galwedigaeth.) Rhoddir awgrymiadau ymarferol hefyd i gyfeiriad cyd-weithio rhwng Diwydiant ac Addysg, er mwyn sicrhau greater realism in education and greater humanitarianism in industry." Dyry ibennod i'r troseddwr ifanc, er mai â'r adolesent cyffredin y mae a fynno'r llyfr sonnir am yr enghreifftiau abnormal er mwyn y golau a roddant ar fân anawsterau'r mwyafrif. Adran gynorth-