Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wyol dros ben ydyw'r ymdriniaeth â phwnc disgyblu yng nghyfnod yr adolesent. Rhaid wrth gyd-weithredu parhaus rhwng athrawon a rhieni. Whether the proíessional educator wishes it or not, the tact remains that the home is the chief training ground of the emo- tions and consequently of character." Craffer ar y cyfarwyddyd gwerthfawr a roddir d'r aelwyd ac i'r ysgol (penodau xi. a xii.). Efallai mai'r ymdriniaeth ag addysg grefyddol yr adolesent a fydd o'r diddordeb mwyaf cyffredinol. Yma eto Uifa golau newydd a ohlir o'r çuestionnaire ar dwf crefyddol yr adolesent. I'r gwan- galon a sonia byth a hefyd am ddifaterwch yr ieuenctid, tonic a fydd .sylwi bod cynifer â 164, allan o 186, wedi profi diddordeb neu ddeffroad crefyddol yn y cyfnod hwn o'u hoes. Wele amlygu diddordeb cyffredinol mewn crefydd ymhlith nitfer fawr o ieuenctid. Tynnir tri chasgliad gan yr awdur ­-(r) bod yr ymchwil am grefydd yn nodweddu'r adolesent mewn cymdeithas fel yr eiddom ni, a bod y bydysawd ysbrydol yn gwneuthur apêl uniongyrchol iddo. (2) Y dylai pobl mewn oed ymgroesi rhag gor-ddylanwadu ar yr adolesent rhaid i grefydd yr unigolyn fod yn eiddo personol iddo ef, yn cyd-grynhoi ei brofiadau ef ei hun­-rhywbeth yn tyfu o'r tufewn, nid wedi ei roddi o'r tu allan. (3) Ni ddylai anwybyddu unrhyw adran o'i brofiadau, os yw i fod yn wirioneddol effeithiol i reoli ei fywyd a'i ymddygiad. Nid digon cynnwys addysg tfeiblaidd yn y curriculum. Nothing short of the religious orientation of the whole curriculum and of the life of the home and school provides the right environ- ment. Of what use is it to ,teach a gospel of love in a periôd set apart for religious instruction, if the whole teaching of history is shot through with the blasphemy of hate?" Not only must all religion be ëducational, but all education must also be religious." Cred Dr. Wheeler mewn addoli fel rhan hanfodol o tfywyd ysgol. The practice of worship in very simple but beautitful form should be an essential part of the life of the school." Ni ddylai bod gormod o siarad. Awgrymir ystafell ddistawrwydd, er mwyn rhoddi cyfle i fyfyrdod tawel. Rhodder lle arbennig i'r Testament \ewydd yn y curriculum. Nid credoau na dogmâu sy'n bwysig, ond teim- ladau. Câr yr Arglwydd dy Dduw: Câr dy gymydog — senti- ment, nid dogma sydd yma. "If Christians concentrated on the actable truths, explaining them by their own lives, they would be rendering the best possible service to youth and to their religion for the adolescent will respond to a living example embodying the Christian ethic, but he will re- ject the influence otf shams, even if they have the most orthodox theological views and speak with the tongues of angels." Delia'r ddwy bennod olaf â phroblemau tywys yr adolesent i'w briod alwedigaeth (vocational guidance), a hyfforddiant athro'r adolesent. Yma eto rhoddir awgrymiadau gwerthfawr a threiddgar, er eu bod efallai o ddiddordeb llai cyffredinol na'r penodau blaen- orol. Caffed Youth fynediad helaeth i aelwydydd ac ysgolion ein gwlad ac yn arbennig croesawer y llyfr gwych hwn i lyfrgell pob gweini- dog a bugail. Fe dâl ar ei ganfed am hynny. JOHN HUGHES. Coleg y Brifysgol, Aberystwyth.