Skip navigation

Y Traethodydd

 - 

Cyf. LXXXVI (XIX) (378-381) 1931

Pedeir keinc y Mabinogi. Book review.

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
PEDEIR KEINC Y MABINOGI, gan Ifor WilUams, M.A., lvi., 336
tdd. Gwasg Prifysgol Cymru. 8/6.
Y mae Gwasg Prifysgol Cymru eisoes wedi profi ei gwerth dir-
fawr i efrydiau Cymraeg drwy gyhoeddi, ynghyd â llawer o lyfrau
eraill, lawlytfrau hylaw a rhagorol gan athrawon ac ysgolorion Cym-
raeg y Brifysgol. Nid esgynnodd ysgolheictod ym mhynciau'r iaith
erioed cyn uched ag yn y blynyddoedd diwethaf hyn, a cheir ei ffrwyth
toreithiog yn yr amryw argraffiadau o hen lawysgrifau a llyfrau gyda
rhagymadroddion a nodiadau diamheuol wych gan y gwyr cymhwysaf
i wneuthur hynny yn y wlad ac yn y byd.
Mentraf ddywedyd yn glir a chroyw na chyhoeddodd y wasg hon
ddim gwell na'r gyfrol hon gan Ifor Williams, ac y mae'n amheus
gennyf a ellid llawlyfr rhagorach a chyflawnach ar unrhyw destun
mewn unrhyw iaith nag a roes fy nghyfaill y tro hwn. Ceir ynddi
gnwd cyfoethog ei adnabyddiaeth o'r hen lenyddiaeth, ei stôr o eng-
hreiffti.au o hen eiriau a chystrawennau a'i gasgliad o tfanylion a chyf.
eiriadau at bopeth a ysgrifennwyd arnynt gan eraill. Ni allesid cael
neb cymhwysach nag ef at y gorchwyl hwn, oherwydd heblaw ei wy-
bodaeth eang sydd yn gynnyrch blynyddoedd o gasglu a chwilio, y
mae ganddo reddf arbennig a gynorthwyir gan ddychymyg byw, i
ddatrys problemau anodd ein llenyddiaeth gynnar.
Yn y Rhagymadrodd ymdrin â pherthynas y llawysgrifau, cyfnod
cyfansoddi'r Pedair Cainc, ac ystyr y term Mabinogi. Amserir y
Pedair Cainc yn eu ffurf orffenedig yn gynharach nag a wnaethpwyd
gan neb o'r blaen. "Y ddamcaniaeth sy'n ateb i'r ffeithiau
yw ddarfod i wr o Ddyfed uno hen chwedlau Gwent, Dyfed, a Gwyn-
edd oddeutu 1060, pan oedd y tair gwlad yn un. Chwanegwyd y cyf-
eiriadau at y Trioedd yn ddiweddarach. Barn Nutt yw bod y Pedair
Cainc yn gynnyrch cyfnod Gruffydd ap Cynan (1075 — 1137), a Rhys ap
Tewdwr (1070 — 93) ni allant fod yn hyn nac yn ddiweddarach nag ail
hanner y τгfed ganrif, medd yr Athro Loth. Ond nid yw'r naill gyf-
nod na'r llall yn 'gweddu cystal â thymor bri Gruffydd ap Llywelyn
(Rhagym. xli.). Cesglir hyn ar bwys ystyriaeth o bwyntiau orgraff,
y trioedd, y bywyd a'r arferion cymdeithasol a bortreadir, a'r am-
gylchiadau hanesyddol mwyaf ffafriol i'w hysgrifennu, ac ymddengys
yr ymresymiad, yn enwedig yn hanesyddol, i mi yn eithaf teg. Ar
bwysigrwydd stlys a stryw yn Pen. 6 am ystlys ac ystryw dylesid
efallai sylwi ar gael ac stryw yno, h.y., nid y ffurf ar y cysylltiad a
ddisgwylid o flaen cytsain ddechreuol, ac yn fy marn i datblygasai'r y
amorganig yn y cyfryw eiriau cyn yr adeg hon. Cyn y gellir ffurfio
barn bendant rhaid ystyried yr holl enghreifftiau a geir yn y fardd-
oniaeth gynnar, ffurfiau fel ystrat B.T. 31. 25 38. 13; ystret 45. 16 (yn
Cy. xxviii. 199 tr. n. 2, i'w egluro, tybir ei ddeillio o *eks-str. er
gwaethaf sreth yn yr Wyddeleg); ystryw 31.26; ystle R.P. 1048.19 yst-
lys 1029.2 Y mae'r ymdriniaeth â ffurf ddeusill maes yn hollol gywir,
ac ni cheir ond rhyw dair enghraifft arall yn yr hen tfarddoniaeth na
sylwyd arnynt, sef B.T. 44. 25 (? dileer a o'i flaen) 75. 25; M.A.
96. 1. Profi a wna hyn hynafiaeth eglur yr englynion, ac fel y dywedir
ar dud. xvii. perthynant i ffurf gynharaf y chwedl. Y farn a dybiwn
i yn gyffredin ydoedd eu bod yn hyn na'r chwedlau fel y maent ac na
ellid pwyso dim arnynt i benderfynu amser ffurfiad diwethaf y chwedl-
au. Ond dwg fy nghyfaill ddigon o brofion eraill i ategu ei syniad
am adeg eu cyfansoddi.
Erbyn hyn credir yn gyffredinol mai maboed ydoedd ystyr
gyntaf mabinogi, a cheir yma ymdriniaeth ragorol o gyflawn ar ystyr a
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.