Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

defnydd y gair. Yr hyn a wneir yn arbennig ydyw olrhain datblyg- iad ei ystyron, a gellir crynhoi gyda'r hyn a ddywedir ar dud. li. '` Ei ystyr gyntaf oll yw mebyd, ieuenctid; yn ail, hanes mabolaeth; y drydedd, stori neu chwedl." Cymerwyd Llyfr Gwyn Rhydderch yn safon i'r testun, gan newid cyn lleied byth ag a ellid arno. Pan ychwanegir ato, rhoir hynny mewn bachau petryal, a phan newidir gair yma ac acw rhoir darllen- iad y llawysgritf ar waelod y ddalen. Yn briodol iawn, yn herwydd bod argraffiad Rhydychen yn rhoi'r testun fel y digwydd yn y llaw- ysgrifau, cynorthwywyd yr efrydwyr ieuainc drwy atalnodi'n y modd diweddar, gwahanu geiriau oddi wrth ei gilydd yn null orgraff heddiw, a defnyddio prif lythrennau mewn enwau priod a'r arwydd- ion arferol i nodi'r rhannau llafaredig. Y mae'r Nodiadau yn wirioneddol wych, a gellid yn hawdd dreulio gofod rhifyn cyfan o'r TRAETHODYDD d ddangos eu rhagoroldeb. Sylwer yn arbennig ar y nodiadau ar llithyaw (2. 1), Annwuyn (2. 25), cynnwll (10.27), drythyä (12.2), Heueyd (12.23), cynted y neuad (13.28), yn y carchar e hun (17.4), Twryf Uliant (22.2), yscaualwch (24. 22), uym pryder im (26. 9), Penardun (29. 10), tryded prif rieni (31. τ), guan y dan (32. 2), wynefwerth (33. 18), somm (37. 22), fedeir degwlat a seithugeint (38. 21), guanas (42. 12), amryw ulawt (43. 4), Gwern gwngwch uiwch (44.5), Aber Henuelen (45.7), ysbyddawt (47.8), lau heb lau (48. 6), ymodi (62. 6), Mabinogi Mynweir a Mynord (65. 23), uab Don 0 (67. 12), trawscwyd (69. 1), yguely (72. 1), ys llaw gyffes (80.22), y Lleu (80.23), ysmalawch (86.3), yr ymdriniaeth â'r englynion (89.25—90.I3), yn neilltuol (nis) mwy tawd naw [es], angerd, ymywet. Rhaid i'r darllenydd weled y rhain ac ugeiniau eraill ei hun cyn y gallo amgyffred eu gwerth. Annheg ydyw i neb yn ei hamdden ddangos gwallau cymharol ddibwys ar waith sydd mor odidog o gyfoethog ac a gyflawnwyd yn brysur mewn amser cyn fyrred. Y rhyfeddod ydyw lleied nifer y manion y gellir cynnig eu cywiro neu ychwanegu atynt, a hynny mewn mwy na deucant a deg o dudalennau. Geill Diarwya (1. 6) gynnwys diar = dyar neu ddyar, ffurf ar y ar ar cymh. dyaruor R.P. 1054.27. A'r enghreifftiau dan erchlas (2. 4), cymh. yar orwyd erchlas B.A. 19.21; ar orwyd erchlas R.P. 1300.45; kyrch erchlas dossawc 1329. 12; erchuarch M.A. I63a 19; lluchueirch erchrawn I5Ia 27 y ar vein erch B.A. 33. 3 (ond y ar veinnyell 8. 5), ar vuan veinerch R.P. 1396. 4; oll tfel yn y testun yn disgrifio march neu feirch. Yn y dyfyniad o D.G.G. 74, dan Annwuyn (2. 25), oni ddylid darllen o ddwfn, nid oddwfn, er mwyn cynghanedd? Ni thybiatf fod angen deall yssyd o flaen yn ryuelu (3. 1) nid yw'r gystrawen yn anghyffredin. Yn lle ry gyrchwys gellid cynnig yt gyrchwys fel gwreiddiol y gyrchwys (4. 7). Credaf fod kymmeller (6. 11) yn ber- ffaith amhersonol fel y mae, heb ef i ailadrodd ar ny del yn y cymal blàenorol. Gallesid efallai sylwi ar y calediad yn na chafla (7. 24); cymh. tykya, ond tygyaw, tygyei; gw. ar 9. 23, ac ar neita 88. 7. Nid wyf yn sicr mai nid rhyfedd ydyw pob enghraifft o diryued (8. 3). Dichon mai hynny ydyw yn R.P. 1208.37 a 1227.28, ond ni chytuna hyn â'r cyd-destun yn 1313. 32, 1415. 24, a chymh. diryuedawt 1261. 11-2. Yn y nodiad ar da oed gennyf (9. 9), hwyrach y dylesid crybwyll am agwedd ddibynnol oed (oedd) yn y gystrawen hon; cymh. 12. 9, 15. 18, 17. 16, 20. 13, 23. 11, ac yn aml iawn. Yn fei ys (9. 10, R.M. pei as) nid rhagenw yw ys (as), ond cyfuniad o'r geiryn cytf- lwynol y (a) a'r rhagenw mewnol s. Trinir ys yn yr un modd yn y E