Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fy nghyfaill. Dysgais annhraethol fwy na mesur y manion uchod, a dealler y rheini hyd yn oed fel rhan o'm teyrnged i waith rhagorol iawn. Deil yn hir yn awdurdod safonol ar iaith a chrystrawen y Pedair Cainc. Dulyn. J. LLOYD-JONES. THE PROBLEM OF THE TWENTIETH CENTURY. A Study in International Relationshif, by David Davies. London Ernest Benn Ltd. 2is. nett. Gyda lledneisrwydd dwtfn y dynesa Mr. Davies at ei dasg enfawr, gan erfyn am yr hynawsedd a ddangosir yn Nhy'r Cyffredin i aelod yn traddodi ei araith gyntaf. Dyma ei ymgais gyntaf yn nhiriog- aeth llên. Ac nid gormod tystio, pe na byddai iddo gyhoeddi dim byd eto, fod y gyfrol odidog hon yn ddigon i sicrhau ei safle fel un o gymwynaswyr pennaf ei oes. Gwyddom yn dda am ei haelioni a'i weithredoedd da mewn meysydd eraill, a mawr yw ein rhwymau iddo ef a'i deulu amdanynt oll; eithr wrth ystyried mawredd ac an- hawster y pwnc a wynebir yn y gyfrof hon, nid rhyfedd gennym i'r awdur ddyfal chwilio ym mysg ei gyfeillion am ryw un arall, mwy cymwys yn ôl ei farn ef, i ymgymryd â'r gwaith. Ofer, y mae'n ym- ddangos a fu'r ymchwil, a da hynny, oblegid yn sicr ni allai yr un ohonynt pwy bynnag ei gyflawni yn well. Arhödd ei fwa yn gryf, neu, â defnyddio ei gymhariaeth ef ei hun, penderfynodd roddi ei law ei hun ar yr aradr, a hynny yn ysbryd geiriau William Penn yn ei draethawd gwerthfawr ar Heddwch Presennol a Dyfodol yn Ewrop." Ymgymerais â thestun yr wyf yn bur ymwybodol sydd yn ,gofyn un â mwy o ddynolrwydd ynddo nag wyf yn feistr arno i'w dratfod fel yr haedda ac y geilw sefyllfa resynus Ewrop am- dano; ond megis y gall bwnglerdaid syrthio ar draws pry' fel meistr- iaid ar hela a dal, gobeithiaf na chyfrifir y traethiad hwn yn fai ynof os nad ymddengys nac yn fympwyol nac yn niweidiol, ac y gall symbylu eraill mwy medrus i wella ar fy nghais gyda mwy o farn a llwyddiant Bydded iddynt feirniadu, os mynnant, ond iddynt ddilyn y bwriad,-<>blegid cyn cyflawniad athrawiaeth y mil- flwyddiant, nid ymddengys i ni fod dim mwy bendithiol a buddiol er heddwch a deddwyddyd y rhan yma o'r byd." Dywaid Mr. Davies nad ysgrifennodd ei lyfr er mwyn y doeth- ion a'r deallus." Cyfeiria ei ddadleuon at y dyn cyffredin er na all wneud honiad o efrydiaeth academaidd o'r pwnc, gan fod ei oes gan bennaf wedi ei threulio mewn gwaith cyhoeddus, gwleidyddiaeth a masnach; ac ni all hawlio ysgolheicdod a bair wrandawiad fel awduron eraill. Yn unig cydnebydd iddo yn ystod y deng mlynedd diwethaf, rhwng ysbeidiau o lesgedd, ymroi i gasglu defnyddiau yn ymwneud â pherthynasau gwahanol wledydd a'i gdlydd. Ac er yr ofna nad ydynt yn gyflawn, nid yw heb obaith eu bod yn ddigon i ddangos y pwysigrwydd a roddwyd i'r pwnc yn yr amser a fu. Ond beth yw problem yr Ugeinfed Ganritf? Nid oes ond un ym marn yr awdur,­-nid pwnc y diwaith, nid y dirwasgiad cyffredinol, nid pa fodd i wella'r cancr: ond, yn fyr, pa tfodd i atal rhyfel, ar yr ochr negyddol, ac i argeisio cyfiawnder ar yr ochr gadarnhaol, a'r heddwch sy'n cyhoeddi Olewydd oes ddidranc," chwedl Shake- speare. Pa fodd y sicrhawn ni gyfiawnder yng nghylch ein perthyn- asau rhwng-genedlaethol? Sut y gellir rheoli amgylchiadau'r bobl-