Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyma gnewyllyn y gyfrol odidog hon o wyth cant o dudalennau, a'r fwyaf cynhwysfawr a sgrifennwyd erioed ar y pwnc o Ryfel a Hedd- wch. Ni ellir yn ôl ei farn ef sicrhau diogelwch na diarfogiad na chyfiawnder yn y pen draw rhwng gwlad a gwlad oddieithr drwy drefniant o Allu Heddlu rhyngwladol yn cael ei weinyddu gan aw- durdod cynrychioliadol, er amddiffyn y gwahanol genhedloedd rhag ymosodiad, i gyflafareddu ym mhob achos o anghydwelediad ac i osod dyfarniadau'r Llys Rhyngwladol mewn gweithrediad, drwy or- fodaeth, os bydd raid. Tybir ibod creadigaeth grym o'r natur yma yn awr yn amserol yn wyneb datblygiad aruthrol offer rhyfel ac arfau dinistr, gan wa- haniaethu rhwng yr arfau a ganiateir i heddlu cartrefol ar un llaw, ac i'r gallu mawr rhyngwladol ar y llaw arall. Cynllun Mr. Davies yw rhoddi i'r gallu ei awdurdod ganofog-ac â Mr. Davies mor tfanwl a threfnu lle (megis Palestina a mannau canolog eraill fel Gibraltar)- hawl i ddefnyddio arfau diweddar, megis awyr-longau a sudd-longau, nwy gwenwynig, tanciau, magnelau trymion, &c., gyda chyfrannau arbennig o ddynion ac arfau o'r heddlu cartrefol o'r gwahanol wledydd. Gorffwys ymresymiad Mr. Davies, y gellir disgwyl i genhedloedd y ddaear ystwytho i awdurdod Heddlu rhyngwladol ar gyfatebiaeth. Y mae dynion eisoes wedi dysgu ymostwng i gyfraith a threfn mewn pethau cartrefol a chenedlaethol ac nid ofer disgwyl i'r holl genhedl- oedd wneuthur un gronfa tfawr o'u hadnoddau,-milwrol, ariannol ac economaidd, fel y byddai tynged unrhyw ormeswr mor ddigamsyniol fel na byddai dim arall yn angenrheidiol. Y mae tir eto i'w feddiannu, ond odid, nes cyrhaeddir unfrydedd ar hyn. Ond yn ddiamau i'r cyf- eiriad yma yr ydym yn symud. Diolchwn o galon i Mr. Davies am ei weledigaeth, am wres angerddol yr argyhoeddiad, am yr huawdledd, a'r nwyd â'r hwn y mynegwyd hi, ac am yr hyder heintus a feiddiodd gydfyned â hi. Gresyn na fuasai'n bosibl i gylch ehangach o ddarllenwyr gael gafael yn y gyfrol hon. Mwnglawdd o drysorau ydyw, a braint uedd cael ei darllen. Tybed a ellid cael crynhodeb o'r prif bwyntiau a geir ynddi fel y gallo'r wlad benbwygilydd fanteisio arni ? J. E. H. PHILOSOPHY WITHOUT METAPHYSICS. By Edmond Holmes. pp. 176. George Allen and Unwin, Ltd. 1930. Gwr sydd yn lled adnabyddus fel sgrifennydd gwych a grymus ar broblemau Addysg ac Athroniaeth yw awdur y gyfrol sydd newydd ei chyhoeddi o dan y teitl Athroniaeth Heb Fetaffyseg." Tuag ugain mlynedd yn ôl fe ymddangosodd o waith pin miniog Mr. Edmond Holmes gyfrol a osodai allan ei syniadau mewn perthynas ag Addysg -syniadau: a ddeilliai o egwyddorion nad oedd yn newydd, ond, er hynny, rhai nad oedd wedi eu mabwysiadu na'u harfer yn y mwyafrif mawr o sefydliadau addysgiadol ein gwlad. Erbyn heddiw, fodd bynnag, y mae'r egwyddorion hynny ynghyd â llawer o'r syniadau a bwysleisir yn What Is and What Might Be, yn hen adnabyddus i arweinwyr ym myd addysg ar hyd a lled y wlad. Dyn a chenadwri ganddo ydyw Mr. Holmes, a chymaint ydyw ei frwdfrydedd ar ran yr olygwedd a goledda tfel nad oes modd i'w ddarllenwyr fyth lwyddc (pe ceisient hynny) i anwybyddu yr hyn sydd ganddo i'w draethu.