Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ond nid ysgolfeistriaid yn unig sydd wedi gorfod dyfod i adna- bod yr awdur hwn, ac, efallai, hefyd, wedi dyfod o dan ei ddylan- wad, eithr myfyrwyr athronyddol yn ogystal. Yn ystod y deg mlyn- edd diwethaf y mae darllenwyr yr Hibbert Journal wedi gweled am- ryw weithiau erthyglau byw o eiddo Edmond Holmes, y cyn-Arolygwr Ysgolion; ac mor ddarllenadwy ac hyd yn oed sialengar ydynt bron yn ddieithriad fel nad oes dichon peidio â chymryd sylw ohonynt. Y mae gan yr awdur ei safbwynt athronyddol, ac y mae ei ddull brwd- frydig o ddadlau drosto yn ein hatgofio am ddull yr Arglwydd Mac- aulay gynt yn eí Draethodau, ac yn arbennig y rhan olaf o'r traeth- awd ar Francis Bacon. 'Does dim blewyn fyth ar dafod y naill na'r nail; gwyr v ddau pa neges sydd ganddynt i'w mynegi, ni phetrusant ei ohyhoeddi mewn termau pendant a thryloyw, a symudant o'r neilltu â llaw gref unrhyw rwystr a ddichon fod ar eu llwybr. Fel enghraifft o bendantrwydd ac egni dadleuol Mr. Edmond Holmes, gweler y pedair tudalen o Ragymadrodd sydd ganddo i'w lyfr olaf hwn Athroniaeth Heb Fetaffyseg." Beth a olygir yn hollol wrth Fetaffyseg? A oes i'r term ystyr cy- wir a phendant­-ystyr dechnegol a digamsyniol? A ydyw athron- wyr, ie, athronwyr pwysig ac enwog, wedi arfer defnyddio'r term hwn yn y fath fodd tfel nad oes achlysur i efrydwyr athronyddol fethu â phenderfynu terfynau'r maes hwn o efrydiaeth? Pe gellid ateb y ddau ofyniad uchod yn gadarnhaol, tueddwn i farnu na fuasai galw am deitl anffodus y llyfr sydd gennym yn awr o dan ystyriaeth. Ond y ffaith yw fod dynion o safle meddwl y diweddar F. H. Bradley a'r Athro Alexander wedi beiddio defnyddio'r termau Athroniaeth a Metaffyseg i olygu'r un peth yn hollol, ac nid yn uniw wedi aw- grymu y perthyn i'r naill a'r llall yr un cylch o astudiaeth, ond hefyd maentumir mai trwy gyfrwng y deall noeth .neu'r rheswm pur yn unig y gellid darganfod natur yr hyn a elwir yn Rialiti. Hyn sydd wedi cynhyrfu Mr. Edmond Holmes ac wedi ei yrru i ddadlau, megis bar-gyfreithiwr mewn llys, dros yr hyn sydd iddo ef yn egwyddor bwysig, sef, y dylid gwaredu Athroniaeth oddi wrth bob elfen a ellid ei disgrifio fel yn fetaffysegol. Ond-ac y mae o'r pwys eithaf i gofio hyn — cyfynga Mr. Holmes ystyr y term Metaffyseg i ymgais y rheswm pur i ddehongi'r cyfanfyd. Gresyn hyn; oherwydd ar waethaf y ffaitih bod y termau cyfoethog uchod wedi myned trwy brofiadau amrywiol ar law athronwyr unigol a hefyd yng nghwrs Hanes Athroniaeth, y mae cryn sail dros ben- derfynu bod mesur helaeth o ddealltwriaeth gyffredinol yn bodoli yng- hylch eu hystyr. Gwahaniaethodd Aristotl rhwng y gwyddorau ffys- egol a'r efrydiau meta-ffysegol. Cyn ei amser ef yr oedd athronwyr ei wlad-ac eithrio Plato a Socrates — wedi arfer synio am Athroniaeth fel yn cynnwys pob math ar efrydiaeth. Dynion yn caru doethineb oedd yr athronwyr cyntaf, ac yr oeddynt yn gwneud hynny pan geis- ient ddehongli natur y byd anianol, neu ynteu yn ymdrin â rhifydd- iaeth a mesuroniaeth, yn ogymaint â phan y ceisient ddadansoddi drychfeddyliau moesol, megis Cyfiawnder, Dyletswydd a'r Da Pennaf. Ond pan ddaeth Aristotl i ddosbarthu'r gwahanol efrydiau, pender- fynodd ef godi mur uchel i wahanu'r efrydiau anianol neu ffysegol oddi wrth yr efrydiau meddyliol a moesol. Y mae'r Groegwr mwyaf hyddysg hwn fel petai'n unrhywioli Metaffyseg ag Athroniaeth,* I Aristotl ei hun (ac am ganrifoedd ar ôl ei ddydd ef) yr oedd Athroniaeth yn cynnwys y gwyddorau anianol. Clywsom bawib am y frawddeg Athroniaeth Naturiol (Natural Philosofhy).