Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn ormodol, tfel y tybia llawer­-i ddylanwad personoliaethau eithr- iadol eu duwioldeb, nodedig eu hathrylith i athrawiaethu a llywodr- aethu. Fo'i beirniedid am esgeuluso gwaith yr Ysbryd Glân ar y lliaws anghyhoedd a chyffredin a gynhwysai corff yr eglwysi dros y byd cyfannedd. Bid hynny fel y bo, anfynych y sylweddolir gennym fawredd gorchest y meddwl dynol, mewn unigolion ac mewn cynulleid- faoedd,-y naill yn gallu ffurfio, a'r lleill yn medru amgyffred, drwy eglurhad yr un Ysbryd, amryw gymalau a chymwys gysylltiadau cyf- undrefn y gwirionedd y sydd yn ôl duwioldeb. Da gennym gael cyfle i sylwi ar y traethiad amlochrog hwn ar ddiwinyddiaeth gyfun- draethoL pe na bai ond yn unig oblegid maint ein hesgeulustod ni ohoni ers deugain mlynedd, a phrinder datganiadau cymanfaol ac awdurol ar bynciau neilltuol. Pwnc anodd ac angydnaws i Ymneilltuwyr Protestannaidd ydyw mesur ein rhwymedigaeth i gyfaddeff awdurdod y Tadau," cyn- tefig neu ddiweddaraf, chwaethach pendantolion (dogmas) dysg- odron a thraethodyddion enwadol. Ond er lleied y pwys a esyd cynifer, hyd yn oed yn y Cyfundeb, ar ddiwinyddiaeth ddogmatig (sef yr hon a orffwys ar Gredoau a Chyffesion, a dyfarniadau ysgrifenwyr safonol arnynt yn ôl yr Ysgrythurau, neu'n annibynnol ar y rheiny), odid y ceir un aelod o eglwys na pharcho ryw ddysgeidiaeth gan rywun neu gilydd. Cydnebydd y Cyfeillion ddatganiadau Fox a Barclay mewn syltfaenolion. Ond nid yn Dogmatics y naill enwad rhagor y llall y mae'r unig amrywiaeth. Nid cyson yn wastad yw Tadau a doethion Rhufain, er maint awdurdod pob un ohonynt yng ngolwg ei ganlynwyr. Brithir tudalennau'r gyfrol hon ag opinynau mantoledig a phwyllog mintai o ddiwinyddion Protestannaidd, efengylaidd eu hargyhoedd- iadau, oddi mewn ac oddi allan i Eglwys Loegr. Cydnabyddir yn arbennig, o blith yr olatf, ymchwiliadau'r Athro Curtis (a ymwel- odd â'n Cymanfa Gyffredinol y llynedd) i hanes y Credoau, ynghyd â Denney a Forsyth, yn arbennig (awduron mawr eu dylanwad hefyd ar J. D. Mozley yn ei gyfrol gryno ar yr Iawn). Tybed a oes Fethodus ag arno gywilydd Calfiniaeth bellach, a bod yn ddewisach ganddo ei alw'i hun yn Bresbyteriad, heb wybod, gyd â llaw, mai Calfiniaeth mewn gweinidogaeth yn ogystal â chredo, yw Presbyteriaeth? Fe wêl yma gymaint cwmwl o dystion a osodwyd o'i amgylch i'w annog i lynu yn ei broffes, a chofio nad athrawiaeth static a draddododd Calfin ei hunan,-mor bell oedd ef o dybied iddo ddywedyd y gair olaf ar ddim. Gwerthfawr yw'r cathlau coeth a chyfoethog o ddyfyniadau detholedig a gasglwyd drwy ysgolheictod llafurus y Canon llyfryddol, rhyw gadwynau o ganonau hawdd eu dysgu ar y cof, rhag mor gymen yw geiriad cynifer ohonynt, ac mor fuddiol eu cynnwys. Tebyg yw'r pigion hyn i waith yr ysgolwyr hynny o'r oesoedd canol, ffel Pedr Lombard, a chwiliodd ac a gasglodd osodedigaethau'r Tadau boreol (Sentences), i'w dehongli rhagllaw drwy lafur dysgedigion eraill, fel Alexander o Hales ac Ioan Bonaventura. Eithr nid yn unig ansawdd gylchddysgol (encyclofaedic) y cyfran- iad gwerthfawr hwn at Gyffeseg (Symbolics) a ddwg Neander ar gof, nac ychwaith fod iddo, yn ei gyfrol o adolygiad beirniadol ar lyfr Strauss ar hanes yr Iesu, roi ergyd marwol i'r ddamcaniaeth chwedl- onol am darddiad a datblygiad Cristionogaeth. Diddorol i hen ef- rydwyr Trefecca yw gwybod mai yn Goettingen, lle'r enillodd John Harries Jones radd doethor athroniaeth, y ganed Neander, ac efrydu ohono yno gyntaf. Rhyw ddehongliad priod yw'r crybwyll hwn o brif hanesydd eglwysig yr Almaen cyn Harnack (a aned tuag amser