Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iant hwy ar yr hawl gynhenid," pan ddêl, i chwanegu Erthygl neu frawddeg "filflwyddannol" at y Gyffes? Trawiadol fuasai cymharu safbwynt y Canon ag eiddo rhai o es- bonwyr diweddaraf yr Erthyglau Crefydd o'r ysgol wrth-gyferbyniol, megis Kidd, a Bicknell (1915). Hoffem hefyd dremio ar ei ddysg- eidiaeth sacramentaidd, a'i sylwadau rhyddfrydig ar y weinidogaeth esgobol deirurdd, ni fyn ef, fwy na'r un Angliad cyn Bancroft, mai hon yn unig sydd o ddwyfol osodiad. Ynglyn ag Erthygl XVII., am Ragluniaeth ac Etholedigaeth (td. 240) dengys nad Calfin, hyd yn oed o blith y Diwygwyr, heb sôn dim am ddadl Awstin â'r Mor- ganiaid un ganrif ar ddeg cynt, oedd arloesydd Rhagarfaeth (Pre- destination). Dysgwyd yr athrawiaeth honno mewn ffurf gaethach gan Zwingli, a syrthiasai ar faes gwaed Cappel tuag adeg troedigaeth Calfin. Yr oedd Luther lawn mor bendant ar y pwnc, fel y dengys ei ymryson chwerw yntau ag Erasmus am Ewyllys Gaeth. Melanch- thon, yn anad neb, a wnaeth Etholedigaeth yn 'gymal o Gredo Protes- taniaeth. Athro Calfin yn hyn oedd Bucer, a fu hefyd yn gyfryngwr rhyngddo a Luther ar athrawiaeth Presen Crist yn y Cymun. Dang- osir yma hefyd gryfed ydoedd Calfiniaeth diwinyddion Eglwys Loegr (megis Parker a Jewel, Whitgift ac Ussher) hyd at amser William Laud,, a. llefeiniodd hi â surdoes Arminiaeth. Ymddengys hanesiaeth y gyfrol yn hynod ddi-wall, er cynifer ffaith a gofnodir-ysgoleictod uwchlaw cyrraedd diwinyddiaeth ddi- lyfr. Ond anghywir dyddio Trydydd Cyngor Cyffredinol Caer Cus- tennin yn 680 (yn lle 681), a dywedyd (td. 293) mai Marchell (Mar- cellus) Bafo a gondemniwyd yno am goleddu Monotheletiaeth (Un- ewyllysiaeth). Ynyr (Honorius) a gyfeiliornasai ar annog Heraclius Ymerawdr,, fel y dywaid Y Drysorfa, Tach. 1930, td. 245. Ni chynnwys yr Erthyglau ond ychydig osodiadau ar gyfun- drefn a gweinidogaeth a gwasanaeth Eglwys Lcegr, ac odid y rhwystrir y Methodus pybyrraf gan ddim a ddywaid y Canon arnynt, gan debyced yw ei wir gatholigrwydd ef yn hynyma i eiddo'i gydoeswyr Anglaidd, Gwatkin o Gaergrawnt, a Streeter o Rydychen. Nes caffael ohonom ninnau hefyd lyfr cyffelyb i ymgyng- hori ag ef am fannau'r Gyffes Ffydd, gwna hwn y tro yn bur dda. Cynnwys ffydd ac amynedd, a phob rhyw adeiladaeth y sydd a fynno â'n Harglwydd ni." Priodol cymhwyso felly dystiolaeth Poly- carp i fuddioldeb epistolau Ignatius, wrth amgau sypyn ohonynt at y Philipiaid. Dyma'r darn cyntaf a feddwn, ar ôl 2 Pedr iii. 16, o adolygiad ar lenyddiaeth eglwysig. Nid arbedwyd Ignatius, ysyw- aeth, i gyfansoddi'r traethawd cyfundrefnol ar Iesu Grist, y Dyn New- ydd, aaddawodd ef i'r Effesiaid. Ond llawenhawn fod Canon Griffith Thomas wedi ei gadw i orffen ei faith waith i'r wasg, er ei symud, fel y Dr. Hugh Williams o'i flaen, cyn gweled cyhoeddi ei gyfrol gymyn. Aberystwyth. J. YOUNG EVANS. FFYDD, TREFN, A BYWYD, gan y Parch. E. O. Davies, M.A., B.Sc. Cyhoeddedig gan y Gymanfa Gyffredinol yn y Llyfrfa, Caernarfon. 2S. 6c. Dyna ffordd fer yr awdur o gyfeirio at Gyffes Ffydd, Cyfansodd- iad, a Bywyd Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru.