Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nodweddir holl waith Mr. Davies gan fanylwch ac eglurder. Diogel- ach yn ei olwg yw mynegi'n llawn nag awgrymu. Ac yn enwedig pan fo'r mater yn ddyrys a chymhleth, diolch llawer iddo am gymryd cy- maint trafferth i bwysleisio a gwneud yn gwbl glir i'r darllenydd yr hyn oedd felly o'r blaen iddo'i hun. Rhan y peniadau uchod i nifer 0 is-raniadau byrion, er mwyn y sawl a ddichon fod yn anghynefin â'r cyfryw faterion, gan roi golau iddynt ar eu cam tua phen y daith a neges y gyfrol. Dawn werthfawr yw hon, cyd na byddo'r drafod- aeth yn feichus gan fanylion; a pherthyn yn neilltuol i'r meddwl cyf- reithiol. Geilw cyfundeb o bobl am gyfreithwyr ac ysgritfenyddion, yn ogystal ag am broffwydi, athrawon, ac efengylwyr. A bu'r Hwn a roes inni ddynion yn rhoddion, yn hael hefyd mewn amrywiaeth ohonynt. Cyfuniad o'r doniau amrywiol sy'n werthfawr iawn dynion cryf- ion ym mhulpud ac yng nghynghorau'r Eglwys, dynion abl i annerch y dyrfa fawr yn effeithiol ac i ymddiddan â pherson unigol i bwrpas da, arweinwyr ar lwyfan y Gymdeithasfa ac ym mywyd yr eglwys gartref, efrydwyr a gweithredwyr, cyfrinwyr a gwyr ymarferol, beirdd a rhyddieithwyr, proffwydi a chenhadon. Y mae cynifer, ys- gatfydd, o rywogaethau lleisiau yn y byd, ac nid oes un ohonynt heb arwyddocâd. Bendithiwyd Cyfundeb y Methodístiaid-fe1 y canghen- nau eraill o Eglwys Crist-â dynion amlochrog o'r fath, ac y mae Mr. Davies yn yr olyniaeth apostolaidd ardderchog hon. Gwnaeth ei ran fel pregethwr ac athro, fel bugail a gwleidydd eglwysig. Nat- uriol ac esmwyth oedd ymddiried i'w ddwylo awenau'r Cyfundeb y perthyn iddo, yn nhalaith y Gogledd, ac wedyn yn gyffredinol. Ac arfer dda yw rhoi cyfle i Lywydd y Sasiwn a'r Gymanfa, fynegi ei weledigaeth ar denfyn ei dymor ac wrth ddiosg ei urdd-wisg swydd- ogol. Heb fod yn rhwymo'r eglwysi a'r aelodau sieryd hyd fesur mawr yn eu henw a chyda'u hawdurdod. Ar ôl blwyddyn o eistedd yn y brif gadair, ar uchelfa i fedru gweld ohono holl gyrrau'r Cyfun- deb ar unwaith, mae ganddo farn ar ansawdd a chyfeiriad meddwl a bywyd yr eglwysi i gyd. Gweledigaethau a chenadwriau felly yw cynnwys y llyfr destlus hwn yr adran gyntaf wedi ei thraddodi wrth adael Cadair Cymdeithasfa'r Gogledd, ym Mawrth 1923, ar Ein Cyffes Ffydd." Cyd-ddigwydd hapus oedd i hynny ddisgyn yn gydamserol â Chanmlwyddiant y Gyffes. Ymhen chwe blynedd, sef ym Mai 1929, gorffennai'r awdur ei waith fel Llywydd y Gymanfa Gyffredinol, pryd y traddododd yr ail adran o'r llyfr hwn, ar Ein Cyfansoddiad trem yn ôl ac ymlaen." Ac i wneud y cylch yn gyflawn ychwanegodd y drydedd adran, ar Ein Bywyd Ddoe, Heddiw, ac Yfory." Mae'r tri mater yn bwysig yn ddiau, ac yn haeddu eu trafod yn ofalus a mantoledig, yn deyrngarol ac eto'n llydan. Ac yr ydym yma'n nwylo gwr hyddysg o'r llwybrau, yn cerdded yn ochelgar a hamddenol-fel y gallo y rhai lleiaf ohonom ei ddilyn, gan ddangos inni olygfeydd swynol y daith, a'n dwyn i ben y siwrnai'n ddifeth. Medd ar gydwybod Gyfundebol oleuedig, i wybod y gwahaniaeth rhwng yr hyn sydd iawn a'r hyn sydd afiawn, rhwng yr hyn sy ddamweiniol a'r hyn sy hanfodol, rhwng y pethau a ysgydwir a'r pethau nid ysgydwir-megis Gwirionedd, Eglwys, a Cheidwad. Rhaid wrth y pethau llai pwysig, 'fel y ddeddf seremonïol am dymor, ond na rodder iddi hoedl deddf foesol natur Duw a dyn. Y mae Cyfansodd- iad Eglwys a Chyfundeb yn bwysig, Cyffes Ffydd yn bwysicach, a'r Ffydd yn bwysicach na'r Gyffes ohoni; a'r peth pwysicaf i gyd yw