Skip navigation

Y Traethodydd

 - 

Cyf. LXXXVI (XIX) (378-381) 1931

Ffydd, trefn, a bywyd. Book review.

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Bywyd. "Y mae yn aros Ffydd, Trefn, Bywyd, y tri hyn; a'r
mwyaf o'r rhai hyn yw Bywyd."
Ystrydebol hwyrach yw dweud bod y gyfrol hon yn un am-
serol." Oblegid mewn amser y daw pob cyfrol allan Ond am-
serol iawn yw hon ar y fath destun, yn yr ystyr na fedr un Cyfun-
debwr oedi ei meddu a'i hefrydu, pan ofynnir barn yr Henadur.
iaethau ar y drafft o Fesur Seneddol tuag at gorffori'r Cyfundeb;
a phan yr ydys o fewn pum mlynedd i ddathlu daucanmlwyddiant geni
Methodistiaeth Cymru. Anodd deall heddiw ond yng ngoleuni doe; ac
y mae'n rhaid wrth wybodaeth am ddoe a heddiw i baratoi'n deil-
wng ar gyfer yr yfory mawr Etyb y llyfr hwn ei bwrpas yn rhag-
orol.
Y Bala. T. R. JONES (Clwydydd).
Y LLAWR DYRNU Naw stori fer. Gan R. G. Berry. Gwasg Aber-.
ystwyth. 3s. 6c.
Praw go dda ar werth darn o lenyddiaeth yw bod calon y sawl a'i
darllenodd unwaith yn dychlamu wrth daro arno eilwaith ar l rhai
blynyddoedd. Caiff llu, fel y cefais innau, y profiad hwnnw wrth
gydio yn y gyfrol hon.
Bu rhaid i fwyafrif y straeon hyn fynd i'w cyhoeddiad cyntaf fel
y mwyafrif pregethwyr Methodus, gan letya gyda blaenoriaid yn
cadw mis. Ym misolyn,-neu yn foatfoty'r diweddar Syr John Morris-
Jones y lletyodd rhai ohonynt,-ty a wnaethpwyd yn anghyfannedd
gan stormydd y rhyfel-" a'i le nid edwyn ddim ohono ef mwy."
Lletyodd y gweddill ohonynt yn hafoty'r Athro W. J. Gruffydd, sydd
eto ar ei sylfeini, ac yn gyrchfan cwmni diddan.
Gollyngais ochenaid o ddiolch y munud yma mai ysgrifennu yr
wyf, ac nid siarad; oherwydd pe dywedaswn y geiriau yn hafoty
fel hyn oddi ar llwyfan, cawswn fy nghamfarnu tfel un yn difrio'r
BEIRNIAID a'r LLENOR; ond mae'r geiriau mewn argraff yn dangos yn
eglur ddigon nad yw'r llythyren n yn cael ei dyblu, a gwneir fy
niniweidrwydd innau yn amlwg.
Ond bellach, wele'r straeon yn un teulu yn eu ty ardrethol eu hun-
ain,-plas bychan a'i liw o las y ffurfafen, a phopeth yn ddymunol
o'i ddeutu. Fel y naw awen ar drumiau Helicon, yma y preswyliant
o hyn allan, a'u croeso a'u bendith yn ddibrin i'r sawl a eilw heibio
iddynt.
Mae stori yn debyg i dafarn. Try rhai i dafarn er mwyn y ddiod,
try eraill iddi er mwyn y cwmni. Try rhad i nofel er mwyn y ddiod;
a'r ddiod yw'r stori. I'r dosbarth yma o ddarllenwyr rhaid i'r stori
fod yn gyffrous; a phan ymgynhyrfo'n iawn, bydd y digwyddiadau
yn dilyn ar garlam ar sodlau'i gilydd, a'r darllenydd druan, 'i wynt
yn ei ddwrn, ar sodlau y rheiny. Pobol y ddiod, yn yr ystyr yma,
yw mwyafrif mawr y dorf gynyddol sydd yn cerdded l a blaen i
lyfrgelloedd cyhoeddus mawr a mn y deyrnas  dim ond nofelau o
dan eu ceseiliau o ddechrau blwyddyn i'w diwedd. Nofel newydd yw
hi wrth gwrs bob tro, ac ynfydrwydd yn eu golwg yw darllen yr un
peth ddwywaith,y stori yw'r peth. Try eraill i nofel er mwyn y
cwmni, a da gan y dosbarth hwn yw taro ar nofel a ddeil i'w hail
a'i thrydydd ddarllen. Straeon i droi iddynt er mwyn y cwmni yn
hytrach nag er mwyn y ddiod yw'r straeon hyn. Mae pob un ohon-
ynt yn stori, mae'n wir ond nid yn llinyn arian y stori ynddi ei hun
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.