Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y mae'r gyfaredd, ond yn y cymeriadau. Medd yr awdur ar ddawn arbennig i anadlu anadl einioes ymhob un o'i greadigaethau a châr ei hun bod cymeriad a fegir ganddo dan gronglwyd llên, — peth han- fodol i wir nofel, gan nad hir ai ber fydd ei stord. Un o'r pethau mwyaf gwerthfawr i mi yn y gyfrol hon yw ei chynhesrwydd. Ceir ynddi lawer math ar gymeriad,-<>nd mae braich eu creawdwr, er yn anweledig, am wddf pob un ohonynt yn ei dro, fel y gweddai i fraich creawdwr fod. Mae ail-ddarllen cynnwys y gyfrol wedi dyfnhau argyhoeddiad oedd gennyf o'r blaen bod R. G. Berry yn nyled ei wlad a'd genedl o gyfres o ysgrifau difri-ysgafn yn cynnwys beirniadaeth lân, ddoniol, ddifalais ar wahanol agweddau bywyd yng Nghymru. Mae ganddo gymhwyster eithriadol — ben a chalon—at y gwaith; ac am y meysydd, y maent yn wynion eisoes i'r cynhaeaf, ond mae ysgrifenwyr â'r ddawn hon ganddynt yn brin ymhob oes. Naw stori fer,a cheir yma raen da ar y naw,-ac y mae yn am- hosibl i neb fynegd ei gymeradwyaeth mewn iaith gryfach na hon yna. Er mwyn y sawl sydd yn anghyfarwydd â thafodiaith y fro y ganwyd awdur y straeon hyn ynddi, dylwn egluro mai ar y naw yw'r pwynt eithaf y medr gwres canmoliaeth a gwres anghymerad- wyaeth godi iddo. Ymadrodd cyfystyr ydyw â phrifair Ned Smeilar (gweler Buchedd Ned Smeilar yn y gyfrol), a'i ystyr bob amser fel gair mawr Ned i'w gasglu oddi wrth ei gymydogion yn yr un fraw- ddeg. Yr unig wahaniaeth o bwys rhyngddynt yw bod ar y naw yn perthyn i'r seiat, a'r llall, ar ôl byw am oesoedd ar y comin, wedi ei dderbyn ers tro bellach yn aelod cyflawn gan y Steddfod a'r Cym- rodorion. R. DEWI WILLIAMS. Y Rhyl.