Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. YMDDYGIADAETH. (AIL YSGRIF). YN yr erthygl flaenorol ar Ymddygiadiaeth (Y TRAETHOD- YDD, Hyd. 1930) eglurwyd ystyr gweithred atgyrchol, a gweithred atgyrchoi amodedig. Bellach y mae'n bryd es- bonio'n llawnach ac yn fwy gofalus yr hyn a ddywedwyd yno, sef yr honnir mai peth cwbl bosibl ac ymarferol ydyw llunio Eneideg yn nhermau'r oorff yn unig. Credir y gellir dehongli bywyd dyn yn hollol foddhaol fel ymddygiadau a chyfundrefnau o ymddygiadau, a'r ymddygiadau hynny i gyd yn eu tro wedi eu ffurfio ar y cynllun cyffredinol 0 stimiwlws ac yna ymateibiad iddo. Hwyrach na elilir cychwyn yn well na thrwy fynegi mor glir a dhryno ag y medrwn yr amfcanioh hynny y cais ffurf- iau mwyaf eithafol y theori eu cyrraedd. Ni bydd hyn yn anhegwch â'r ddysg oblegid, fel y mae'h diigwydd yn y cysylltiadau hyn, y ffurf fwyaf eithafol yw'r ffurf fwyaf resymegol ar y tlheori. Y mae'n wir y geilw llawer eu hunain yn Ymddygiedwyr er na ddilynasant hwy mo'r argiwment hyd y pen draw, eithr ar y llaw arall, ymwrth- ododd yr Ymddygiedwyr i'r bôn â phob swildod oddigerth swildod rhag cael eu cyhuddo o dalu gormod gwrogaeth i'r gorÉfennol. Y ffurf eithafol ar y theori a eglurir yn yr erthygl hon. I. Nid Ymddygiadaeth ydyw pob efrydiaeth o ymddyg- iadau dynion; gellir diiyn yr efrydiaeth honno'n ddigon manwl hebl fod yn perthyn i ysgol yr Ymddygiedwyr o gwbl; eithr tyf yr efrydiaeth honno'n Ymddygiadaeth pan ychwaneger ati y gosodiad mai termau ymddygiad neu