Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y COBLYN BACH. YR oeddwn wedi myned i Bentredu i gynhebrwng yr hen weinidog Hugh Ricfoards, ac yh aros noson yr angladd gyda'm cyfaill Griffith, gweinidog presennol y lie. Ar y bwrdd yr oedd copi o nofel R. L. Stevenson, Dr. Jekyll and Mr. Hyde," ac ar ôl swper wedi inni eistedd i lawr gofynnais i Griffith, A wyt ti'n credu'r athrawiaeth yna ?" Yr wyf yn credu fy Meibl," efoe Griffith, mae Paul yn sôn am yr 'foen ddyn a'r dyn hewydd,' fel y gwydd- ost, a 'does dim eisio iti ond darllen hanes Jacob a Dafydd na weli di'r un peth. Am wn i nad dyna'r frwydr y sonnir amdani mor aml gan Williams, Pantycelyn, yr ymdrech i droi'r hen ddyn dros y drws a gwneud y dyn newydd yn wr y ty. Ond gwyddom yn eitha mai cyndyn iawn yw'r hen ddyn i ymadael, ac y mae'r ddau yn treio byw dan yr un tô, ac y mae hi'n iholics wyllt o'r tu mewn yn fynych. Mae hyn yn ddigon eglur i bawb. Ond i beth yr ydw' i'n sôh, fe ddywedir yn y Beibl am wraig a saith o fodau ynddi, ac am ddyn a thair mjl yn trigo ynddo." Ie," ebe finnau, ond cythreuliaid oedd y rheiny." Dim gwahaniaeth," ebe Griffith, "y mae cymaint o amrywiaeth ymhlith cythreuliaid ag sydd ymhlith dynion. Ond i ti ddarllen Milton neu'r Bardd Cwsg, ti weli fod i bob ysbryd drwg ei nodweddion personol ei hun. Ond y mae yna ryw ys'bryd bach arall mewn dyn sy'n dra gwa- hanol i'r giwed yma; am hwn y bydda i'n meddwl, ac mi ges achos i feddwl amdano'n ddiweddar. 'Does gen i ddim gair Cymraeg amdano os na alwa i o'n goblyn neu elff. Daeth inhi oddi wrth ein hynafiaid pan oedd y rheiny'n crwydro'n rhydd a diofal ar draws y gwledydd, cyn bod sôn am frenin, na llywodraeth, na c'hyfreithiau, cyn dyf- eisio cloc na theim-tebl, ie, cyn i brydlondeb ddyfod yn rhinwedd, a chÿn i neb siarad arno mewn Cyfarfod Ysgol. Etifedd foacfo o'r dyddiau pell hynny ydyw'r élff. Nid hen ddyn mohono. Y mae'n hen, ond nid yw wedi tyfu i fyny. Y mae'n aros yn blentyn llon, direidus, di-ddal, ysmala. Ni ellir ei alw'n dda na drwg, non-moral ydyw'r chap bach