Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ysgrifennwyd llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar berthynas llenyddiaeth y Mandeaid â'r Bedwaredd Ef- engyl. Daeth y broblem i'r amlwg i ddechrau trwy gyf- ieithiad Lidzbarski o'r llenyddiaeth a'i ddamcaniaeth fod perthynas agos rhyngddi â llenyddiaeth Gristnogol ac yn arbennig â'r Bedwaredd Efengyl. Erbyn hyn traethodd llawer eu barn ar y broblem a phawlb bron yn barnu'n wahanol.* Trwy Pietro della Valle a'r Carmeliaid o'r Eidal y daethpwyd i wybod gyntaf am fodolaeth y Mandeaid. Yn 1658 ysgrifennodd Ignatius a Jesu eu hanes yn Rhuf- ain. Sect grefyddol ydynt yn trigo yn neheudir Babil- onia, a dywedir fod tua dwy fil ohonynt yn aros heddiw. Daw'r enw o'r gair m'anda yn golyg-u gwybodaeth (Gr. gnôsis). Ymgnawdoliad o'r gnosis hwn yw Manda d'Haiia (Gwybodaeth y Bywyd). Ni wyddom ddim o hanes y sect. Mae iddi ei llen- yddiaeth, eithr ni roddir gair o hanes ei tharddiad na'i datblygiad yn un o'r llyfrau. Fel y dywaid Reitzen- stein, yn y gnôsis nad yw o'r ddaear yr oedd eu diddor- deb i gyd, a'u bryd i gyd ar y byd tragwyddol yn hytrach nac ar fyd amser. Oherwydd hynny nid oes dim goleuni ar hanes y sect i'w gael o'i llenyddiaeth. Ceir amryw- iaeth barn ynghylch cartref cyntefig y sect. Deil Reit- zenstein a Lidzbarski mai disgyblion Ioan Fedyddiwr oeddynt, a bod eu cartref ar lah Iorddonen, ac iddynt symud yn ddiweddarach i Fabilonia. O'r ochr arall, deil Peterson mai yn neheudir Babilonia yr oedd eu cartref cyntaf, ac mai cangen ydynt o Gnosticiaeth Gristnogol. Cred Burkitt mai o Faniceaeth a chrefydd Marcion y tarddasant. Yr un modd nid oes sicrwydd am amseriad eu llenydd- iaeth. Ceir tri casgliad a'u cynnwys yh amrywiol iawn. Y prif lyfr yw y Ginsa (Gr. thesauros, y Trysor; ceir yr un gair yn llyfr Esra v. 17, vi. 1, vii. 20). Hwn yw'r casgl- *Gwel Arweiniad i'r T.N., gan Gwili, td. 589, 601.