Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AR ryw brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog yn ddà- weddar, ys dywaid Ellis Wyn, ymlwybrwh lethrau un o'r bryniau lleohweddog sy'n gwahanu'r ddau Gwm a ad- waenir fel Cwm yr Alwen a Llangwm. Pwysai'r mater a nodir uchod yn drwm ar fy mryd a'm meddwl. Yn ddiar- wybod bron, deuthum i bwynt ar y llethr, o'r hwn y gwel- wn ddau gapel sy'n ganolfannau gofalaeth y gweinidog. Gorweddai dau ddarn o wlad, prydferth fel Gardd yr Ar- glwydd, wrth fy nhraed. Gwelwn gwr cartref y teulu pellaf sy'n aelodau yn un eglwys, ar y naill law; ac ar y llall, fan preswyl yr aelodau pellaf yn yr eglwys arall. Brithid y cymoedd ag amaethdai, rhai mwy a rhai llai. Gwelwn amaethwyr prysur bryderus, hyd y meysydd, yn cywain yr yd i'r ysguboriau; a rhai bugeiliaid a'u gweis- ion ffyddlon, digynnen ac ufudd, ar y llechweddau. Ym- donnai ar yr awel lais swynol llaethferch o ffermdy gyf- erbyn. Ac meddai'r llais — Y Bugail mwyn o'r Nef a ddaeth i lawr, I geisio'i braidd trwy erchyll anial mawr; Ei fywyd 'roeis yn afberth yn eu lle, A'u crwydrad hwy ddialwyd arho Fe." Daeth rhyw hud ymholi rhyfedd trosof. Beth yw Bugail ? Beth yw Bugeiliaeth ? Beth yw Bugeiliaeth Eglwysig? Beth yw ystyr fy mod i yma'n Fugail praidd y ddwy ddi- adelll sy' â'u cartref ysbrydol yn y ddau gapel ar waelod y cymoedd prydferth? Bugail Mynnai'r meddwl ymdroi ac ymdrosi o.gylch y gair. I. Gwyddwn ddiffiniad rhai o'r Geiriaduron ohono. "One who tends the sheep," medd Nuttall. "Un sy'n gofalu am y defaid am ei fod yn eu caru," medd rhyw hen athron- *Anerchiad a draddodwyd yng Nghyfarfod y Pregethwyr yng Nghymdeithasfa Bryngwran, Môn, Tachwedd, 1930.