Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU. STORI'R PEILAT A STORIAU ERAILL. Gan Gwenda Gruffydd. (O Ffrangeg Anatole le Braz). LAURA JONES, gan Kate Roberts. Y DOCTOR BACH, gan E. Tegla Daẁes. Cyfieithiad yw'r cyntaf ac nid prinder llyfrau Cymraeg yn unig sydd yn cyfreithloni ysbeilio'r estron fel hyn, y mae hefyd yn ffordd anrhydeddus i gytfoethogi llenyddiaeth ein gwlad. Testun llawenydd hefyd yw cael cyfieithiad â chyn lleied o flas cyfieithu arno. Bûm bron ag ofni wrth ddarllen ambell gyfieithiad mewn blynydd- oedd diweddar, bod y ddawn i gyfieithu i bwrpas llenyddiaeth wedi dianc o'r wlad hefo'r ganwyll frwyn a'r dorth haidd. Mae dau fath o gyfieithu yn bod, — cyfieithu o safbwynt iaith, a chyfieithu o safbwynt llenyddiaeth. Cyfieithu ysgol a choleg yw y blaenaf busnes y dis- gybl yw profi ei feistrolaeth ar y ddwy iaith, a champ y class-room yw tywallt cynnwys y naill iaith i lestr y llall, a hynny heb golli dim. Bai'r cyfieithu hwn, i bwrpas llenyddiaeth, yw y cymerir yn gan- iataol bod yn rhaid o bob mymryn o ystyr y gwreiddiol gael lle trwy deg neu drais yn y cyfieithiad. Ond y gwirionedd yw bod pob darn -0 lenyddiaeth sydd yn werth ei gyfieithu, i feddwl iddo ychwanegu at gyfoeth llenyddiaeth gwlad arall, fel potelaid o win,­-rhaid tywallt yn ofalus, a gwell yw peidio â gwneuthur gorymdrech i dywallt y cwbl, oherwydd y mae ymhob campwaith llenyddol, ymhob iaith, rhyw elfen anghyfieithadwy,-rhyw waddod sydd yn diflasu popeth os tywelltir ef trwy orthrech i iaith arall. Mae cyfieithu i bwrpas llen- yddiaeth fel trin mêl,-ac yn y dull hwnnw y cyfieithai yr hen Gymry yn y dyddiau gynt. Gadawer i'r mêl ddiferu wrth ei bwysau yn esmwyth a didrais o'r diliau, fe geir mêl gloyw, â'i flas yn berffaith. O'r tu arall os eir i wasgu a phwyo y crwybr, ceir efallai ychydig ddiferynnau yn rhagor o fêl; ond yn lle gloywder bydd niwl a chwmwl, a bydd y blas yn wahanol. Teimlir wrth ganu ambell emyn bod y cyfieithydd wedi ymaflyd yn rhy ffyrnig yn y gwreiddiol, ac wedi ei fygwth-" Ni'th ollyngaf oni'm bendithi," a bod y gwreidd- iol wrth ildio, yn ei fraw, ei holl ystyr a'i gynnwys i'r cyfieithydd, wedi rhoddi ei ifendith iddo fel ysgolhaig ac ieithydd; ond bod yr emyn Cymraeg a ddaeth i fod yn yr ornest, ar ei golled mewn gloyw- der a blas. Mae'r hyn sydd yn wir am gyfieithu emyn yn wir am gyfieithu stori. Mae Gwenda Gruffydd i'w llongyfarch ar ei gwaith yn troi ystorïau Anatole le Braz i Gymraeg mor ddilol, naturiol a blasus. Ysgrifennwyd y ddau lyfr arall gan ddau y gwyr lliaws darllenwyr Cymru amdanynt yn dda. Stori sydd gan y naill 'a'r llaH, — ^y gyntaf yn corffori helyntion bywyd geneth, a'r ail, helyntion bywyd bach- gen, ac ar gyfer ieuenctid wrth gwrs yr ysgrifennwyd hwynt. Nid peth dibwys i wlad yw bod ysgrifenwyr da yn gwneuthur eu rhan i hulio byrddau llenyddiaeth y tð sydd yn codi; oherwydd nid gwaith hawdd ydyw, ac nid cymwynas fach i wlad yw cymwynas y sawl a Jwyddo yn y gwaith. Gwaith anodd yw ysgrifennu i bwrpas ar