Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gyfer bore oes, oherwydd cyn y bydd yr hyn a ysgrifennir yn bwr- pasol, rhaid yw i gryn lawer o wlith y bore fod arno. Wrth sôn am wlith, nid dagrau sydd ar fy meddwl, — er bod y beirdd er bore'r byd wedi cyfri'r gwlith yn ddagrau. Nid awgrymu yr wyf bod eisiau ysgrifennu yn feddal a lleddf ar gyfer plentyn,-popeth ond hynny; ond ynghanol pob digrifwch a direidi, ac o dan bob donioldeb, dylid cael etíen o dynerwch a barddoniaeth yn llechu yn ddistaw yn y stori, fel y mae Ueithter yn llechu, ac ar brydiau yn perlio, yn llygad plentyn. Mae rhai cyffyrddiadau o'r tynerwch hwn i'w cael yn Laura Jones er nad yw saerniaeth y stori yn dda; ond mae Y Doctor Bach" er ei holl ragoriaethau, bron mor ddiwlithyn yn yr ystyr yma a phe buasai wedi llechu yn rhywle yng nghymdog- aeth llawr-dyrnu Gedeon pan roed y cnu arno y noson gyntaf, a'i íod, yn ei ddireidi arferol,-er mwyn osgoi'r gwlith, wedi ymwthio i blyg- ion y onu at y noson wedyn. Darllenais Hunangofiant Tomi," gyda boddhad digymysg rai blynyddoedd yn ôl; ond mae'r haul wedi poethi a gormod o'r gwlith wedi codi yn y cyfamser. Yr wyf yn cyfeirio at hyn oherwydd ei fod i raddau yn nodweddu'r cyfnod presennol. Mae storïau â thipyn o dynerwch a mymryn o grefydd ynddynt, ar gyfer plant, yn prysur fynd allan o'r ffasiwn, a gellir priodoli hynny i ddau beth. Cododd cri bod crefydd, ac yn enwedig capel.a phregethwr, a blaenor a seiat, yn ymwthio i bopeth a ysgriifennid gan Gymro. Yr oedd gwir yn y cri,­-yr oedd hynny'n ffaith; ond yr oedd peth arall yn ffaith hefyd yr oedd capel a phregethwr, blaenor a seiat,-er gwell, er gwaeth-wedi ymwthio i fywyd pob ardal yng Nghymru, ac ni ddylai eu presenoldeb mewn stori a drama beri unrhyw syndod, — er bod gormod ohono yn tueddu i beri diflastod. Ond mae yna ddylanwad arall ar waith,-y farch- nad. Gwlad fach yw Cymru, a chyfyng yw'r farchnad i lyfr ar y gorau, ac y mae'r cwmniau sydd yn cyhoeddi llyfrau,—ar gyfer plant yn enwedig, yn ddigon naturiol yn awyddus i gau allan bopeth a allai beryglu gwerthiant. Y'canlyniad yw bod Eglwys a Chapel, a pherson a phregethwr a chrefydd yn ei threfniadau allanol, yn cael eu rhestru ymhlith yr explosives' mwyatf peryglus; a gwell gan gy- hoeddwr fentro stori nad yw'n cario dim o'r pethau yma yn ei choffrau. Mae hyn oll yn hawdd i'w ddeall, ac nid teg yw bod yn llawdrwm ar y cyhoeddwyr o'i blegid. Ymhellach, o'm rhan fy hun ni chwynwn lawer am gau allan o storïau plant lu o bethau sydd yn dal perthynas â chrefydd yn ei ffurfiau allanol; ond wrth droi Capel ac Bglwys a phethau o'r fath dros y trothwy o'n storïau dylem wylio, hyd y mae ynom, rhag i bob mwynder ymado yn ddirgelaidd yn eu cwmni. Ni ddylid ysgrifennu ar gyfer plant heb roddi cyfle teg i ryw halo orffwys ar rywbeth yn rhywle. Wedi'r cwbl mae mewn bywyd ryw seceina sydd yn hyn nag Eglwys a Chapel, hyn na pherson a phregethwr. ac os yw teml llenyddiaeth i sefyll, rhaid yw iddi hithau warchod hwnnw yn ei sancteiddiolaf. Y Rhyl. R. DEWI WILLIAMS. STUDIES IN THE PHILOSOPHY OF RELIGION. By A Seth Pringle-Pattison, Ll.D., D.C.L., Fellow of the British Academy. Oxford: At the Clarendon Press. 1930. 12/6. Y mae awdur y gyfrol hon yn dra adnabyddus ers blynyddoedd lawer bellach ifel un o brif athronwyr Prydain Fawr, ac fel un a wnaeth gyfraniad pwysig i Athroniaeth Crefydd, yn arbennig yn ei lyfr ad- nabyddus The Idea of God in the Light of Recent Philosophy (1907),