Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bersonoli'r Logos. But for this insidious tendency to personify the abstract, we should have remained content with the idea of our crea- tive Spirit, at once transcendent and immanent­moving in the hearts of men, itself the inspirer of every advance-and have been satisfied to recognize in Jesus of Nazareth, in his life and death as. well as án his teaching, the supreme example of such inspiration (td. 251). Dyna tfynegiant cryno o feirniadaeth y Dr. Pringle-Pattison ar y credoau eglwysig a datganiad o'i gredo personol ef ei hun. Cytunatf i raddau pell â'r dehongliad hwn. Petai gofod yn can- iatáu, hoffwn feirniadu rhai pwyntiau yn y dehongliad. Ni allaf ond nodi dau neu dri phwynt, heb ymhelaethu dim arnynt. (1) Nid ym- ddengys i mi fod yr awdur yn gwneud cyfiawnder â dysgeidiaeth Iesu amdano'i Hun, y lle canolog a rydd iddo'ii Hun fel cyfryngwr Teyrnas Dduw a gwrthrych ffydd ac ymddiriedaeth Ei ganlynwyr, yn ôl tystiolaeth eglur yr Efengylau Synopti.g. Priodolir gormod i Baul wrth ei wneud yn awdur y efengyl am Grist." (2) Pwys- leisia ormod ar y tebygrwydd rhwng Cristnogaeth fore a'r Crefyddau Cyfrin, a rhy fach ar y gwahaniaeth amlwg a phwysig sydd rhyng- ddynt. (3) Credaf ei fod yn gorwneud lle'r sacramentau, yn ystyr Gatholig y gair, yng Nighristnogaeth yr Eglwys fore. Yn sicr ni allaf gytuno â'r syniad (td. 217) fod athrawiaeth sacramentaidd Eg- lwys Rufain yn sefyll yn nes i syniadaeth ac awyrgylch ysbryd y credinwyr cyntaf nag a wnâ'r olygwedd arwyddluniol ac ysbrydol ("symbolic and purely spiritual view") y dadleuir drosti gan Bro- testaniaeth. Yn fy marn i, y mae hyn ymhell o fod yn gywir. Athronydd yn hytrach na diwinydd wrth ei swydd yw'r Dr. Pringle-Pattison. Diddorol iawn i mi oedd darllen dehongliad y lleygwr galluog hwn o hanes datblygiad crefydd o'i tharddiad hyd at y grefydd Gristnagol. Gellir cymeradwyo'r llyfr yn galonnog. Y Coleg Coffa, Aberhonddu. D. Miall EDWARDS. CYMRU A'R UCHEL GOMISIWN. 1633 1640. Gan Thomas Richards, M.A., D.Litt. Lerpwl, 1930. Dyma'r Dr. Richards unwaith eto wrthi yn ,gosod sylfeini (chwedl Mr. R. T. Jenkins). Eisoes y mae dyled haneswyr Cymru yn fawr iddo am ei lyfrau ar y cyfnod Piwritanaidd, llyfrau sydd wedi gosod astudiaeth o'r maes ar sylfaen wyddonol. Yn y gyfrol sydd yn awr dan sylw, y mae'n troi at y cyfnod sydd ym blaenori'r Rhyfel Car- trefol, ac yn ei drin gyda'r un feistrolaeth ag sydd yn nodweddu ei weithiau eraill. Perthyn yr Uchel Gomisiwn i'r gyfundrefn yna o lysoedd breiniol — meg,is Llys y Ser, Cyngor y Gororau a Chyngor y Gogledd, a gyr- haeddodd eu llawn dwf a'u defnyddioldeb gyda'r Tuduriaid, gan ddir- ywio yn offerynnau gorthrwm o dan y Stiwartiaid. Pwrpas yr Uchel Gomisiwn, yn fyr, oedd sicrhau ufudd-dod i'r gyfundrefn eglwysig a fathwyd gan Elisabeth ac amcan y llyfr presennol yw olrhain gweith- rediadau'r llys yn yr achosion Cymreig a ddygwyd i'w sylw. Yr oedd maes diddordeb y llys yn arswydus o eang, ac o fewn ffiniau'r term sỳiritual and ecclesiastical offences whatsoever," yr oedd modd cyn. nwys pob cyfeiliornad a drygioni yn y byd ysbrydol-pob drwg a allai offeiriad ei wneud, pob drwg a ellid ei wneud i offeiriad; pob tertfysg mewn eglwys, pob cythrwfl mewn mynwent" (td. 5). Yr oedd y lleygwr yntau yn gorwedd o dan gwmwl fygythiol yr adran whatsoever nid yw anfoesoldeb, ymyrryd â meddiannau a thir- oedd yr eglwys, argraffu llenyddiaeth wrth-eglwysig, ond enghreifft-