Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. CYMRAEG Y PULPUD* Dyma'r ail dro yn fy mywyd i mi gael cais am fy marn ar y testun hwn. Y tro cyntaf, tua chwarter canrif yn ôl, pan oeddwn wrthi hi ym Mangor mor ddygn ag y medr- wn, yn paratoi at yr arholiad olaf yn y Gymraeg, neu'n sychu'r chwys ar ôl gorffen (ni fedraf bellach gofio pa'r un), daeth cais oddi wrth fy nghyfaill Morris Thomas am lith i Gylchgrawn Myfyrwyr y Bala, gydag awgrym bod y genedl oll o ben Caergybi hyd ben Caerdydd yn dyheu am wybod beth oedd fy syniad i ar y pwnc. Nid oeddwn fy hun wedi digwydd sylwi ar unrhyw arwydd o'r cyfryw awch: yn hytrach tueddai'r dystiolaeth i gyfeiriad arall. Er enghraifft, nid oedd blaenoriaid meddylgar yr Hen Gorff yn dangos rhyw flys eithriadol i fynychu eu cyfleus- terau i wrando arnaf yn profi fy ngwybodaeth ymarferol yn y gangen hon o areitheg. Nac oeddent. Wedi i mi arfer fy nawn yn ei glyw yn oedfa'r bore, byddai gwr y llyfr bach yn aros gartre'r nos, neu os doá i'r moddion, anghofiai ddyfod a'i lyfr i'w ganlyn. Ond tytbed, wedi'r cwbl, mai fy nghyfaill oedd yn iawn, ac nad oedd y rhain yn cynryichioli'r genedl gyfan? Efallai (bod gweddill y Cymry yn angerddol awyddus am fy marn ar y gelfyddyd. Llonnais drwof, aic eistedd i lawr, a byrlymu nifer o bara- graffau hynod o bwrpasol i'r dywededig gylchgtawn, fy offrwm cyntaf i dduw y wasg. Yr oedd y cyntafanedig yn edrych i'm llygaid tadol i yn lluniaidd a pherffaith gwbl, heb nag anaf na mann arno yn unman. Wedyn, yng nigihwrs yr amseroedd dyledus, daeth adolýgáad yn y Gol- euad ar y rhifyn, ac ar fy erthygl i. Ond ysywaeth, nid mawl, ond cerydd llym oedd yn hwnnw i'r glaslanc, a Anerchiad a draddodwyd yn Undeb Athrofa'r Bala, yn Llan- dudno, Gorffennaf 7, 1930.