Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YSBRYD GLAN YN YR EFENGYL YN OL IOAN. NID yr Ysbryd Glâh yw Arwr Efengyl Ioan, ond Iesu Grist, ac y mae'r Iesu yn fwy o arwr, ac yn arwr mwy, drwy'r Ysbryd Glân, yn yr adran olaf o'r efengyl nag yw yn yr adran gyntaf. Y mae'r Dr. Samuel Johnson yn fwy o arwr i'r Saeson ar ôl i Boswell ei gymryd mewn llaw nag oedd ef cyn hynny. Mae Socrates yn fwy o arwr i'r Groegwr ar ôl i Plato ei adgyhyrchu nag a allai fod heb hynny. Mae Iesu Grist yn fwy o arwryn Efengyl Ioan drwy'r Ysbryd Glân nag a allai ef fod ar wahân. Oherwydd hyn, ac mewn trefn i ddangos y lle sydd i'r Ysbryd Glân yn y Bedwaredd Efengyl, rhaid fydd cym- ryd ychydig hamdden i ddadrys trefniant yr awdur yn ei hahes am Iesu Grist. Mae lle'r Ysbryd yn dibynnu ar le Crist ynddi. Byddai mor amhosibl siarad ar fywydeg gan anwybyddu Natur, yn flodeuyn, anifail a dyn, ag a fyddai siarad ar yr Ysbryd Glân ac anwybyddu Iesu Grist. Cymerwn yn ganiataol y trigai'r awdur yn Effesus yn neehrau'r ail ganrif, pan oedd yr Eglwys, mor bell ag y gwyddai ef, wedi ymledu dros wyneb y ddaear, goleuni Crist yn goleuo pob dyh ar y sydd yn dyfod i'r byd," ac i feddwl Groegaidd, fel ei feddwl ef, yr oedd yr Eglwys yn greadigaeth newydd, neu yn enedigaeth newydd, â Christ yn ganolbwynt iddi. Canys o'i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll a gras at ras.' Rhennir yr Efengyl yn bedair rhan. (i) Y rhagymad- rodd, sef y deunaw adhod cyntaf. (2) Yr hanes hyd ddi- wedd y ddeuddegfed bennod, lIe y cynhwysir hanes Crist yn ei gynnig ei hun i'r Iddewon, a'i wrthod. Arwyddair y rhan hon yw at ei eiddo'i hun y daeth, a'i bobl ef ei hunan nis derbyniasant ef." (3) Ei ymddiddanion a'i ddis- gyblioh o'r drydedd bennod ar ddeghydyr ail ar bymtheg. (4) Yr epilôg, sef hanes y Croeshoeliad a'r Atgyfodiad. Dilynir Cyfieithiad Caerdydd o'r Bedwaredd Efengyl ran amlaf yn y dyfyniadau a gynhwysir yn yr ysgrif hon.