Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"YR HEN WEINIDOG." BUM lawer gwaith yn meddwl ysgrifennu gair am yr Hen Weinidog, canys gosododd ei argraff yn annileadwy ar fy meddwl, pan oeddwn fachgeh, cyn dechrau ohonof bre- gethu, ac wedi hynny. Er mwyn cyfleustra, mi a'i galwaf yn John Jones,-enw dychmygol, wrth gwrs, a dychmygol hefyd fydd yr enwau eraill a ddaw i mewn yng nghorff yr ysgrif. Pan ddechreuais i bregethu, nid oedd John Jones yn weinidog mewn gofal eglwys. Ni ellir mynd i mewn yn y fan hyn i'r rheswm, neu'r rhesymau, am hynny. Anfyn- ych y pregethai mwy, ac ni phregethai nemor ddim y tu- allan i gylch y Cyfarfod Misol yr oedd yn aelod ohono. Bu unwaith yn weinidog amlwg yn y Corff, a chyfrifid ef, yn gyffredinol, yh un o bregethwyr disgleiriaf ei oes. Ar un cyfnod bu'n weinidog yn Jeriwsalem Methodistiaeth y Gogledd. Y pryd hwnnw yr oedd yn anterth ei nerth, a sôn mawr amdano drwy'r Cyfundeb i gyd. Cydweinidog- aethai ag ef ddau neu dri o'r pregethwyr ardderchocaf a gafodd ein cenedl o'r dechrau. Ond o rah grymuster ei weinidogaeth, yr oedd John Jones, yn arbennig ar adeg- au, uwchlaw iddynt oll. Yn anffodus, daeth cwmwl dros ei ddisgleirdeb, a bu am gyfnod heb bregethu o gwbl. Dywedai un o haneswyr craffaf y Corff wrthyf, un a wydd- ai yr holl amgylchiadau, fod peth amheuaeth yh ei gylch, a chryn lawer o genfigen tuag ato ymhlith ei frodyr yn y Weinidogaeth. Gallai fod rhywbeth yn hynny, oblegid nid angylion mo'r tadau i gyd mwy na ninnau eu plant. Beth bynnag am hynny, collodd pulpud y Methodistiaid Calfinaidd un a restrid yn uchel ymhlith ei bregethwyr a'i weinidogion blaenaf. Ymneilltuodd i'r wlad, i ffarm fechan o'r eiddo ei hun, ac yno, mewn rhyw fath o ddi- nodedd, y treuliodd weddill ei oes. Tywysogaidd a phatri- archaidd oedd yr olwg arno, yn ddyn ychydig uwchlaw'r cyffredin o daldra, â barf fawr, laes, yn cyrraedd hyd han- ner ei frest. Yr oedd ganddo'r pen tebycaf a welais erioed i ben Kilsby Jones. Yr oedd ei lygaid fel llygaid eryr,