Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PERTHYNAS DUW Â'R BYD, YN OL DYSG- EIDIAETH SYR HENRY JON,ES. Ni ellir meddwl am fater sydd o fwy o ddiddordeb i ddyn, nac o fwy pwysigrwydd iddo, na'r broblem o berthynas Duw â'r byd, oddi eithr efallai y broblem o fodolaeth Duw. Gellir dywedyd i athroniaeth lawer tro ymdrin â chwestiynau nad oedd o fawr ddiddordeb i'r dyn cyffredin, nac o fawr bwys iddo. Ond pery diddordeb dyn yn bar- haus yn y broblem hon ar gyfrif ei chysylltiad agos â'i fywyd ymarferol. Nid problem i'r athronydd yn unig ydyw, ond problem y mae'n rhaid i bob un ei hwynebu drosto'i hun. Nid dibwys gan hynny hyd yn oed i'r dyh cyffredin ydyw'r hyn a ddywaid yr athronydd ar y mater. Ni all yr athronydd o leiaf ei hanwybyddu, gan y gellir dywedyd gyda llawer o wirionedd mai'r broblem hon, mewn rhyw wedd arni, a arweiniodd ddyn i athronyddu o gwbl. Dehongliad adfyfyriol o fywyd ydyw athron- iaeth, a chyfyd yr ahgen amdani, fel y dywaid Caird, allan o gynghanedd doredig y bywyd ysbrydol, sydd â'i wahanol elfennau'n edrych fel petaent mewn gwrthwynebiad ang- hymodlawn â'i gilydd. Problem Athroniaeth gan hynny ydyw ennill neu adennill y fath syniad am y cyfanfyd fel ag i gymodi'r gwahanol elfennau a'i gilydd; mewn gair, cymodi ymwybyddiaeth dyn â hi ei hunan ac â'r byd. Un agwedd ar y broblem, gan hynny, ydyw cymodi ymwy- byddiaeth grefyddol dyn â ffeithiau diymwad bywyd a ym- ddengys yn anghyson â hi, megis aflwyddiant tymhorol, dioddefaint a phoen, ac hyd yn oed bechod y byd. Er y saif dysgeidiaeth Syr Henry Jones ar y mater dan sylw mewn cysylltiad anwahanol â'i athroniaeth yn gyff- redinol, credwn y gellir ei drafod i fesur ar wahân, heb flino'r darllenydd â gormod o fanylion. Ceir ymdriniaeth helaeth ar y mater gan yr awdur yn ei Ffydd >n ym- ofyn," a chan mai o'r gyfrol hon y dyfynnir, bodlonwn ar roddi rhif y tudalennau yn unig. A Faith that Ençuires.