Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y cwestiwn ydyw a geir engreifftiau, neu yn wir un enghraifft, o weithred dda yh gadael dyn yn foesol waeth, neu o weithred ddrwg yn gwneud dyn yn foesoI well. Byddai un enghraifft o'r naill neu'r llall yn ddigon i ddin- istrio ein ffydd ym modolaeth Duw ac yn ei ddaioni. Ond ar y dybiaeth bod i ddaioni moesol ac ysbrydol werth ynddo'i hunan, ac y dibynna gwerth pethau tymhorol ar eu perthynas â'r daioni terfynol hwn, byddai hawlio y dylasai "y dyn da gael amser da, a'r dyn drwg boen a dioddefaint, colled a thristwch," nid yn unig yn amherth- nasol, ond hefyd yn gyfeiliorhus. Cadarnheir y dybiaeth hon i raddau pell gan brofiad dynion. Ceir enghreifftiau o ddynion yn troi pob math ar am- gylchiadau anffafriol yn gyfryngau cynnydd moesol ac ysbrydol. O'r ochr arall profir yn barhaus mai ail-raddol yw daioni tymhorol. Ceir dynion mewh amgylchiadau tymhorol ffafriol yn fethiant mewn ystyr foesol ac ys- brydol. Dengys profiad y naill, ac yn arbennig y tang- nefedd a'r dedwyddwch a fwynhânt, y gwnânt y def- nydd gorau o amgylchiadau allanol sydd yn ahffafriol; a thystia bywyd a phrofiad y lleill iddynt gamddefnyddio'r amgylchiadau. Y casgliad gan hynny ydyw bod y byd naturiol yn ddarostyhgedig i amcanion moesol ac ys- brydol. (3) Dwg bodolaeth daioni moesol ac ysbrydol dyst- iolaeth nid yn unig i fodolaeth Duw, ond hefyd i berffeith- rwydd ei gymeriad. Rhaid i'r amheuwr brofi ei haeriad mai egni gwrth-foesol ydyw'r achos o'r byd, sydd yn ei gynnal ac yn ei reoli," trwy gymhwyso'r un profion ag a gymhwyswyd at ffydd y crefyddwr. Rhaid iddo roddi cyfrif am y daioni moesol a welir yn y byd. Rhaid iddo esbonio'r drefn a'r prydferthwch a welir mewn Natur, yn ogystal â'r daioni moesol ac ys'brydol a welir ym myw- ydau dynion. Ni all yr amheuwr, ac yn wir ni ddymuna, wadu'r ffeithiau hyn. "Tyf rhyfeddod y cyfainfyd yn llaw gwyddoniaeth, a lluosoga a dyfhha'r praw o drefn (td. 230). Ymddengys bod prydferthwch y byd maturioil yn ein cymryd ymihellach hyd yn oed na'i drefn eglur. Gwelir prydferthwch ar bob llaw mewn gormodedd 'haeliohus, ac iddo werth tra gwahanol i fuddioldeb noeth." Ym-