Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wyneb a feddylir (td. 10). Drachefn, Mewn mater- ion o ffydd a moesoldeb gorfydd ar unrhyw un o feddwl diragfarn gydnabod bod yn y Beibl lawer o bethau na ellid fyth ddisgwyl i Gristnogion eu derbyn mewn dim tebyg i'w hystyr eglur a naturiol (td. 13); neu, â rhoi'r peth yn gryfach fyth, Y mae'n hwyr bryd i ddatgan yh ddiamwys y cynnwys y Beibl lawer peth a fyddai'n drwy- adl niweidiol pe tynnid ef allan o'r cysylltiad hanesyddol y digwydd fod ynddo, a phe rhoddid iddo awdurdod cyff- redinol a pharhaol (td. I3­I4). Yr hyn a wêl yr awdur hwn yn y Beibl ydyw yr aw- durdod a berthyn i athrylith fawr fel y cyfryw (td. 31), a chenfydd ef yr athrylith hon yn bennaf yn y proffwydi; ac eto dywaid na fedr "neb ond y sawl a addola'r Beibl dan ddylanwad rhyw ofergoel dall dderbyn fel gwirion- edd lawer o'r elfennau a geir hyd yn oed yn nysgeidiaeth proffwydi'r Hen Destament" (td. 127). Ei syniad ef ydyw mai ofer edrych yn unlle am awdurdod sy'n gwbl allanol. Cydnabyddwn awdurdod yr hyn a apelia atom fel peth teilwng o'n hufudd-dod. Ac am hynny dywaid fel hyn: "Ni allwn ganfod hyd yn oed yng Nghrist aw- durdod sydd mor gwbl allanol nes ein rhyddhau o'n cyf- rifoldeb anocheladwy am eih syniadau a'n cred ni'n hun- ain" (td. 282); a'i frawddeg olaf yw hon: "Os yw'r Beibl mewn gwirionedd yn Air Duw, nid yw felly am ei fod y gair terfynol ar bob cwestiwn crefyddol, eithr yn hytrach fel y gair sy'n hedyn,' allan o'r hwn y tardd ym meddwl dyn amgyffrediad newydd o wirionedd (td. 300). Ymddengys llyfr Dodd yn agored i feirniadaeth ddwbl. Yh gyntaf, ni wnâ gyfiawnder llawn â'r elfen offeiriadol yn yr Hen Destament; ac yn ail, ni osodir yn ei syniad am awdurdod ddigon o bwys ar yr angen am farn y cyfan- gorff o bobl o'i chyferbynnu â barn y dyn unigol. Llenwir y ddau fwlch hyn yn dda yh y llyfr ar yr Eglwys a'r Beibl (The Church and the Bible) gan H. L. Goudge (a gy- hoeddwyd yn 1929). Cystwyir y Catholigion a'r Protestan- iaid yn didttwahamíaeth gan Dr. Göudge. Er enghraifft, dywaid hyn: Yn ymarferol ni chydnebydd y Pabyddion yn aml ddim mwy 0 hawl y Beibl i gywiro eu dysgeidiaeth hwy nag a gydnabyddir o hawl yr Eglwys i gywiro eu dysgeidiaeth gan y Protestaniaid hwythau" (td. 2); a