Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU. CHRISTIAN ETHICS AND MODERN PROBLEMS. By W. R. Inge, K.C.V.O., D.D. Isl- net. pp. 402. London Hodder and Sttughton. Wrth ollwng ei gyfrol ddiwethaf o'i law dywaid y Deon Inge mai hi fydd ei lyfr olaf o bwys oblegid y galwadau mynych ar ei amser. Cawsom ni'r fath bleser a budd o'i darllen fel y 'gobeithiem nad felly y byddai, ond y rhoddai'r awdur athrylithgar inni drachefn o'i drysor bethau newydd a hen." Deil y Deon fod y Foeseg Gristnogol Draddodiadol wedi gwyro oddi wrth ddysgeidiaeth yr Efengyl mewn llawer pwnc, a'i ibod yn ddyledus arnom i geisio dod o"hyd i'r Foeseg ddiledryw a ddysgai'r Sylfaenydd ei hun, a chymhwyso hon at broblemau'r dydd. Di- flannodd grym Traddodiad bellach, ac ni phlyg neb mwy wrth arch Awdurdod. Am yr ymwared hwn y mae'r diolch yn bennaf i ddylan- wad y Gwyddorau Naturiol a esyd gymaint pwys ar brofion diym- wad, ac i Feirniadaeth Feiblaidd ac i'r Rhyfel Mawr. Tueddwn gan hynny yn y dyddiau hyn i ddwyn popeth dan brawl,-athrawiaeth, sefydliad, moesoldeb, a hyd yn oed crefydd ei hun, a ;glynu wrth y peth hwnnw yn unig a'i cymeradwya ei hun i gydwybod oleuedig yr awr. Barna'r Deon bod y Meddwl Modern yn fwy cydnaws â dysgeidiaeth Crist nag â'r Foesoldeb Draddodiadol. Prif faterion y bennod ar Foeseg y Testament Newydd ydyw elfennau dysgeidiaeth foesol Crist ac atebion i'r cyhuddiadau a ddyg. wyd, o bryd i bryd i'w herbyn. Er 'bod yr ymdriniaeth drwyddi aT lefel uchel, ni welsom ddim newydd-deb arbennig yn rhan gyntaf y bennod. Ond mawr hoffwn y sylwadau a wneir ar rai pwyntiau, megis bod pryderu yn anghyson â bod yn Gristion, a bod gofyn i'r Cristion ddangos mwy na haelioni tuag at y truan, a cheisio gwella ei enaid yn ogystal â'i amgylchiadau. Eglurir hefyd mai hanfod gostyngeiddrwydd ydyw nid hunan-ddibrisiad, ond ymdeimlad o'n bod wedi derbyn y cwibl a feddwn. Delia'r Deon yn ifeistrol'gar iawn yn y rhan olaf y bennod â gwrthwynebwyr y Foeseg Gristnogol. Dengys mai disaa.il ihollol yw llawer o'r cyhuddiadau, megis ibod y del- fryd yn rhy nacaol, ac yn peri ymatal rhag drwg yn hytrach na cheisio'r da, a'i fod yn ddibris o bethau da a dewisol y bywyd pre- sennol. Bryd arall, megis pan ymdrinia â chyhuddiad Nietzsche mai moesoldeb caethwas yw moesoldeb Cristnogaeth," prawf mai clod i gyd ydyw'r tipyn gwir sydd yn y gwyn. Ac am rai o'r cyhudd- iadau dadleua'r Deon nad ydynt mewn .gwirionedd yn mennu dim aT ddysgeidiaeth Iesu ei hun, ond ar eiddo rhai o'i ganlynwyr cyf- eiliornus. Un enghraifft o hyn ydyw'r cyhuddiad yn erbyn yr elfen ascetic yn yr efengyl. Nid oes gotfod i fanylu ar y dinistr a wnâ'r Deon ar y gwrthwynebwyr. Byddai yn fantais i'r darllenydd a deimlo ddiddordeb yn y pwnc i roi ystyriaeth fanwl i'r rhan hon. Mae'r Ibennod ar Asceticiaeth yn esiampl hapus o ddull yr awdur o drafod pwnc, ac yn enwedig o'i wybodaeth eang a manwl. Ystyr wreiddiol y gair ydyw disgyblaeth,' ond heddiw dynoda'r math hwnnw o ddisgyblaeth a gais buro'r enaid drwy boenydio'r corff. A diflas yw daTllen am y dulliau anhygoel a brwnt a arferid weithiau mewn gwahanol grefyddau a chyfnodau yn foddion cynnydd yn y