Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mewn rhai cylchoedd heddiw am ddyletswydd dyn yn ei berthynas â*r rhyw arall. Bron na ddywedwn mai'r gwrthdystiad hwn a chon. damniad yr awdur ar y Babaeth yw prif genhadaeth a phrif werth y .gyfrol. Haerir gan rai uchelwyr ym myd addysg a meddwl fod y Foesoldeb Gristnogol Draddodiadol yn cyfyngu yn ormodol ar ryddid dyn, ac yn rhoi ataliad ar reddfau a chwantau diddrwg ei natur, a thrwy hynny peri niwed i'w gorff a'i enaid. Am hynny dadleuir yn groch tood eisiau ail-ystyried a diwygio ein syniadau moesol yng ngoleuni y wybodaeth newydd a ddaeth i'n rhan yn y blynyddoedd diwethaf. Rhaid addef bod y Deon ei hun cyn baroted â neb i symud ymlaen lle y gwêl achos, ac i ymryddhau oddi wrth hualau traddod- iad ac anwybodaeth. A chyda golwg ar rai pethau yn wir y mae'n argyhoeddedig y dylem newid ein meddwl. Ond wedi iddo roi pob ystyriaeth i'r hyn a fynn Apostolion y Foeseg Newydd, cyhoedda yn bendant 'bod anniweirdeb a godineb i ibarhau yn nosbarth y pethau a waherddir. Tu allan i undeb priodas ni ddylai dyn a dynes ddyfod ynghyd mewn cyswllt cnawd. Dadl y Deon dros wahardd cyflawni nwyd rhyw y tu allan i undeb priodas yw bod gweith- redu tfelly yn 'halogi'r corff, yr hwn sydd deml i Dduw. Ni allaf gredu y gwna'r rheswm hwn yr apêl leiaf at ei wrthwynebwyr. Oni allent gyhuddo'r Deon gymryd yn ganiataol y peth hwnnw y dylid ei brofi, begging of the çuestion? Ond nid yw rhesymau cryfion Sidg- wick, a ddyfynnir ar dudalen 347, dros foesoldeb rhywiol yn agored i'r un gwrthwynebiad. Cytunaf yn hollol â'r awdur pan ddywaid, gan gytuno ag Urwick ar y mater, na ellir bob amser droi chwantau rhywiol ein natur i sianel wahanol a'u dyrchafu, ond bod rhaid drwy gydol oes barhau i'w hatal, a'u newynu a'u gwrthwynebu. Ac ni all dderbyn syniad Freud ac ereill fod atal greddfau rhywiol yn beth mor beryglus i iechyd corff a meddwl ag y mynnant hwy inni gredu. Y mae gan y Deon Inge bin yr ysgrifennydd buan, a'i arddull yn ffres a bywiog. Ymddengys hefyd fel petai'n cofio popeth a ddar. llenodd. Yn wir, ni wn i am neb arall a rydd arnaf y fath argraff o tfod holl-wybodol fel y gwnâ ef. Ond nid ydyw, serch hynny, yn ymresymydd trwyadl. Rhydd resymau dros ei farn, ond ni thra- ffertha yn fynych i ystyried y rhesymau i'r gwrthwyneb, a thafoli yn deg. Peth arall, nid yw'r Deon yn egluro ei fethod yn tfanwl. Cyt- unwn ag ef mewn rhoi'r goel fwyaf ar ddysgeidiaeth y Testament Newydd, ac yn enwedig ar ddysgeidiaeth yr Iesu. Nid oes dim newydd chwaith yn ei syniad fod Ysbryd Crist yn gyfrwng dabgudd- iad parhaus o feddwl ac ewyllys Duw ynghylch y da. Yr hyn sydd newydd yn ei fethod yw ei ymagwedd tuag at y Gwyddorau Naturiol. Sieryd fel pe bai Gwyddoniaeth yn ddatguddiad cyfartal i'r Testa- ment Newydd, a bod Llywydd y British Assoeiation yn dysgu gwir- ioneddau mor ddwyfol â Deon Eglwys Gadeiriol Sant Paul! Pan gofiwn mai delio â ffeithiau a digwyddiadau a wna Gwyddoniaeth, ond mai â delfrydau a safonau y mae a fynno Moeseg, disgwyliem i'r Deon egluro sut y dichon y naill wyddor daflu golau ar broblemau'r llall. Nid ydym yn gwadu na ddichon Gwyddoniaeth wasnaethu Moeseg, ond nid ydym yn barod i brisio'r gwasanaeth hwnnw mor uchel â'r Deon. A buasai yn dda gennym pe bai wedi gweled yn dda drafod yn gyffredinol a manwl ym mha wedd y dichon y Gwydd- orau Naturiol gyfrannu at ein gwybodaeth am yr hyn sydd dda ac iawn. Dyledus iawn ydym i'r Deon Inge am gyfeirio meddwl dynion at bynciau mor bwysi'g ag a drafodir yn y gyfrol hon. Geill y dyn cyff- redin ei darllen a'i mwynhau gan mor eglur a diddorol ydyw. Brithir ei thudalennau gan ddywediadau pert a ffraeth. Ac mor lluosog