ydyw'r rhain nes ei bod yn anodd dethol esiamplau, a chollent, bid sicr, gryn lawer wrth eu trosi i iaith arall. Y mae ynddi ystôr o hanes am fudiadau pwysig a byd-eang. A heblaw hanes ceir dyfyniadau o weithiau dysgedig yn datgan barn ar wahanol bynciau. A cheir barn y Deon ei hun, ac nid gwerth 'byohan a rydd neb a ystyrio ar farn gwr mor ddyfnddysg a duwiol- frydig ag ef. Cynorthwyir ni drwy'r moddion hyn i ffurfio ein barn ein hunain ar bynciau moesol y dydd. Ac er inni betruso galw'r llyfr hwn yn Uyfr mawr, nid oes amheuaeth nad ydyw yn un o'r llyfrau gwerthfawrocaf a mwyatf buddiol a ymddangosodd yn ddi- weddar. Aberystwyth. W. JENKYN JONES. MOESEG. Gan y Parch. James Evans, M.A. tt. vii.-f 141. Cyfres y Brifysgol a'r Werin. Pris, 2/6. Y cynnig hwn o eiddo'r Parch. James Evans ydyw'r cyntaf yn Gymraeg-hyd y gwn i-i drafod Moeseg yn unol â nodwedd wyddonol y dyddiau hyn," ac nid yw'n rhyfedd gan hynny i'r awdur deimlo'i ibod yn anodd i'r Gymraeg barablu'n groyw yn y gangen hon." Cynnwys y llyfr y penodau a ganlyn (1) Nodweddion a Thyf. iant Dyn; (2) Moeseg a'i Hefrydiaeth; (3) Ystyr Ymddygiad; (4) Y Rhinweddau; (5) Prif Broblem Moeseg; (6) Y Daioni Pennaf (7) Moeseg a Gwyddorau eraill. Ychwanegir atynt gyfeiriadau at aw- duron (a fyddai'n tfwy hwylus o lawer ar waelod y tudalennau lle'r enwir hwy), Llyfryddiaeth, Geirfa, a Mynegai. Y mae brawddegau anffodus iawn yn y Rhagymadrodd ynglŷn â Llyfryddiaeth. Ebr yr awdur, O'r llyfrau a enwir try- chinebus i'r eithaf fuasai i neb ddarllen y cwbl oll. Y mae'r fath beth yn bod â diffyg traul meddyliol" (td. iv.). Efallai mai smalio'r oedd Mr. Evans, ond bid a fynno am hynny, y mae'n anffodus ddigon. Fe ddylai pawb a fynno drin y pwnc o ddifrif ddarllen y cwbl a gynnwys rhestr Mr. Evans, a llawer iawn heblaw'r rhai hynny. Y mae'r cyngor yn amlygu anghrediniaeth yn y rheswm dynol, ac yn achlesu'r diffyg trylwyredd hynny mewn ysgolheictod wnâ waith Athroniaeth yn ddiystyr o'i gychwyn cyntaf. Efallai nad yw'n ormod dywedyd i Mr. Evans yn y geiriau hyn roddi mynegiant i ddiffyg mwyatf sylfaenol y llyfr. 'Cychwynnir y drafodaeth drwy fwrw golwg ar nodweddion a thyfiant dyn," ac y mae grym y sylwadau'n troi o gwmpas y greddfau a'r lled-reddfau, .gan fanylu ychydig ar y reddf heidgar, awgrymiad, dynwarediad ac arferiad. Y mae Mr. Evans yn dibynnu bron yn gytfangwbl ar Social Psychology McDougall. Y mae darnau mawr o'r bennod nad ydynt yn ddim namyn cyfieithiad neu aralleiriad o frawddegau McDougall. Ni ddengys y bennod ond y nesaf peth i ddim o ddylanwad y datblygiadau aruthrol sy'n cymryd lle'n feun- yddiol mewn Eneideg, ac ni allwn lai na theimlo na fu excursion Mr. Evans i Eneideg yn llwyddiannus iawn gogyfer â phwrpas nodwedd wyddonol y dyddiau hyn." Y mae cryn ansicrwydd yn y drafodaeth ar Foeseg a'i Hetfryd- iaeth." Rhennir y gwyddorau i'r (a) Disgrifiadol a'r (b) Normadol. Gosodir Moeseg yn yr olatf, a deffinir hi i gychwyn fel Gwyddor ymddygiad gwirfoddol gan bwysleisio'r elfen wirfoddol. Ndd yw'r hyn a ddywedir am y gwyddorau normadol yn glir, a gwahaniaethir rhyngddynt ar sail sydd yn gwbl gytfeiliornus. Ysgrifennir yn
This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.
The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.