Skip navigation
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
teles i'r geiriau mo'r dymuniad am y da ac am wir ddedwyddwch.
Nid yw Aristoteles chwaith yn euog o'r gwrthuni o ddywedyd mai
"geirwiredd yw'r canol rhwng dweud gormod a rhy fach." Peth gwa-
hanol iawn i'r hyn a briodolir iddo gan Mr. Evans, oedd gan Aristo-
teles mewn golwg. Ni ellir manylu ar y bennod i gyd, eithr andwyir y
drafodaeth yn fawr gan y ffaith nad yw llawer o'r hyn a geir yn y
bennod yn ddim ond cyfieithiad o'r hyn a geir yn yr awdurdodau y
dibynna arnynt.
Yn y ddwy bennod ar Brif Broblem Moeseg a'r Daioni pennaf,
dosbarthir y damcaniaethau moesegol i (a) Sythweliaeth (Intuition.
ism) a (b) Llesyddiaeth (Utüitarianism), a cheir yma frawddegau cyn-
hwysfawr ac ymgais unol i grynhoi llawer i ychydig dudalennau.
Butler, Kant a J. S. Mill a gaiff y sylw mwyaf. Nid yw'n ddos-
barthiad hapus Sythweliaeth a Llesyddiaeth. Byddai'n gywirach
cytferbynu Sythweliaeth a Pleseryddiaeth, gan nad yw Llesyddiaeth
ond un ffurf ar Bleseryddiaeth (Hedonism). Gyda llaw, oni ddylid
derbyn y geiriau Utilitariaeth a Hedoniaeth i'r Seiet? Y maent yn
eiriau technegol, mor dechnegol bron ag atom, etc.
Arweinir ni i fyny drwy'r damcaniaethau hyn at farn yr awdur
ei hun, sef mai'r un yw'r safon foesol a'r daioni pennaf, ac y cyfunir
rhagoriaethau Sythweliaeth a Hedoniaeth yn y syniad o nod neu
ddiben terfynol. Y nod hwnnw yw hunan-sylweddoliad, a hwnnw
yw'r safon foesol hefyd. Perthyn yr awdur felly i'r traddodiad
mawr," chwedl W. M. Urban, sef y traddodiad delfrydol, ac at-
goffa'i safbwynt ni o T. H. Green a'i ganlynwyr. Dylid galw sylw
at ddadl mewn cylch (circular argument) ar td. 106. Sonia fod
hunan-sylweddoliad yn golygu moesoli a chysegru holl rannau ein
bywyd o dan lywodraeth rheswm ac yng ngoleuni'r diben eithaf,
eithr anaentumia'r awdur hefyd mai hunan-sylweddoliad yw'r diben
eithaf, ac y mae drwy hynny'n diffinio hunan-sylweddoliad yn nherm-
au hunan-sylweddoliad. Y mae hunan-sylweddoliad hefyd yn gyfystyr
â'r Prydferth, y Da, a'r Gwir. Y mae perthynas y pethau hyn â'i
gilydd yn dywyll iawn ar y gorau, ac nid yw'n syn felly y byddai'n
gryn orchest i'w gwasgu i gwmpas dwy dudalen neu lai.
Ni cheir gofod i sylwi ar y bennod olaf, sef Perthynas Moeseg â
Gwyddorau eraill.
Siomedig ydyw triniaeth Mr. Evans, ac ofer a <fyddai celu hynny.
Y mae wrth gwrs, fel y gellid disgwyl, lawer o sylwadau cyrhaeddgar,
a llawer o wybodaeth, wedi eu crynhoi ynghyd i'r gyfrol; ac er bod
diffyg trylwyredd yn tynnu llawer oddi wrth ei gwerth, eto fe ddylai
fod yn ddefnyddiol iawn yn nwylo'r cyfarwydd i dywys y disgybl
a'r ymofynydd pryderus at y problemau hynny a nodir yng nghwrs
y Hyfr.
D.J.J.
EGWYDDORION ECONOMEG. Yr Athro W. J. Roberts, M.A.
Cyfres y Brifysgol a'r Werin. Rhif 4.
Ar 61 aros yn hir am lyfr yn Gymraeg ar Economeg, daeth dau
allan ar sodlau'i gilydd, — un gan yr Athro W. J. Roberts, Caerdydd,
a'r llall gan Mr. J. Morgan Jones, gynt o Aberystwyth.
Rhennir llyfr yr Athro Roberts, a gynnwys 151 td., i ddeunaw o
benodau. Rhagarweiniol yw'r pedair cyntaf yn delio gydag awdur-
dodau a gyda'r cysylltiadau rhwng Economeg a'r gwyddoriaethau
-cymdeithasol ereill. Dechreua rhan bwysicaf y llyfr gyda phennod ar
Arian yna daw pennod ar eltfennau cynhyrchu, ac un arall ar fedd-
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.