Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

teles i'r geiriau mo'r dymuniad am y da ac am wir ddedwyddwch. Nid yw Aristoteles chwaith yn euog o'r gwrthuni o ddywedyd mai "geirwiredd yw'r canol rhwng dweud gormod a rhy fach." Peth gwa- hanol iawn i'r hyn a briodolir iddo gan Mr. Evans, oedd gan Aristo- teles mewn golwg. Ni ellir manylu ar y bennod i gyd, eithr andwyir y drafodaeth yn fawr gan y ffaith nad yw llawer o'r hyn a geir yn y bennod yn ddim ond cyfieithiad o'r hyn a geir yn yr awdurdodau y dibynna arnynt. Yn y ddwy bennod ar Brif Broblem Moeseg a'r Daioni pennaf, dosbarthir y damcaniaethau moesegol i (a) Sythweliaeth (Intuition. ism) a (b) Llesyddiaeth (Utüitarianism), a cheir yma frawddegau cyn- hwysfawr ac ymgais unol i grynhoi llawer i ychydig dudalennau. Butler, Kant a J. S. Mill a gaiff y sylw mwyaf. Nid yw'n ddos- barthiad hapus Sythweliaeth a Llesyddiaeth. Byddai'n gywirach cytferbynu Sythweliaeth a Pleseryddiaeth, gan nad yw Llesyddiaeth ond un ffurf ar Bleseryddiaeth (Hedonism). Gyda llaw, oni ddylid derbyn y geiriau Utilitariaeth a Hedoniaeth i'r Seiet? Y maent yn eiriau technegol, mor dechnegol bron ag atom, etc. Arweinir ni i fyny drwy'r damcaniaethau hyn at farn yr awdur ei hun, sef mai'r un yw'r safon foesol a'r daioni pennaf, ac y cyfunir rhagoriaethau Sythweliaeth a Hedoniaeth yn y syniad o nod neu ddiben terfynol. Y nod hwnnw yw hunan-sylweddoliad, a hwnnw yw'r safon foesol hefyd. Perthyn yr awdur felly i'r traddodiad mawr," chwedl W. M. Urban, sef y traddodiad delfrydol, ac at- goffa'i safbwynt ni o T. H. Green a'i ganlynwyr. Dylid galw sylw at ddadl mewn cylch (circular argument) ar td. 106. Sonia fod hunan-sylweddoliad yn golygu moesoli a chysegru holl rannau ein bywyd o dan lywodraeth rheswm ac yng ngoleuni'r diben eithaf, eithr anaentumia'r awdur hefyd mai hunan-sylweddoliad yw'r diben eithaf, ac y mae drwy hynny'n diffinio hunan-sylweddoliad yn nherm- au hunan-sylweddoliad. Y mae hunan-sylweddoliad hefyd yn gyfystyr â'r Prydferth, y Da, a'r Gwir. Y mae perthynas y pethau hyn â'i gilydd yn dywyll iawn ar y gorau, ac nid yw'n syn felly y byddai'n gryn orchest i'w gwasgu i gwmpas dwy dudalen neu lai. Ni cheir gofod i sylwi ar y bennod olaf, sef Perthynas Moeseg â Gwyddorau eraill. Siomedig ydyw triniaeth Mr. Evans, ac ofer a <fyddai celu hynny. Y mae wrth gwrs, fel y gellid disgwyl, lawer o sylwadau cyrhaeddgar, a llawer o wybodaeth, wedi eu crynhoi ynghyd i'r gyfrol; ac er bod diffyg trylwyredd yn tynnu llawer oddi wrth ei gwerth, eto fe ddylai fod yn ddefnyddiol iawn yn nwylo'r cyfarwydd i dywys y disgybl a'r ymofynydd pryderus at y problemau hynny a nodir yng nghwrs y Hyfr. D.J.J. EGWYDDORION ECONOMEG. Yr Athro W. J. Roberts, M.A. Cyfres y Brifysgol a'r Werin. Rhif 4. Ar 61 aros yn hir am lyfr yn Gymraeg ar Economeg, daeth dau allan ar sodlau'i gilydd, — un gan yr Athro W. J. Roberts, Caerdydd, a'r llall gan Mr. J. Morgan Jones, gynt o Aberystwyth. Rhennir llyfr yr Athro Roberts, a gynnwys 151 td., i ddeunaw o benodau. Rhagarweiniol yw'r pedair cyntaf yn delio gydag awdur- dodau a gyda'r cysylltiadau rhwng Economeg a'r gwyddoriaethau -cymdeithasol ereill. Dechreua rhan bwysicaf y llyfr gyda phennod ar Arian yna daw pennod ar eltfennau cynhyrchu, ac un arall ar fedd-