Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iant tir a chyíalaf. A'r awdur ymlaen i'r farchnad a rhaniad llafur, ac wedyn i ibwnc cystadleuaeth a monopolau. Ceir tair pennod ar brisiau, y gyntaf ar brisiau yn gyffredinol, yr ail o dan fonopoli a'r drydedd o dan gystadleuaeth. Diwedda'r llyfr gyda thair pennod ar ddosbarthiad cyfoeth (cyflogau, llog a rhent), a'r bennod olaf ar Economeg a'x Wladwriaeth." Gwelir y cais yr awdur drin maes eang, ac anodd, y mae'n debyg, a fu dewis a dethol. Esgeuluswyd trin gwerth, ar wahân i brisiau, er efallai y dywed- ai*r awdur iddo ei gynnwys yn ei benodau ar brisiau, ond manteisiol ydyw, fel rheol, er mwyn clirdeb, gwahaniaethu rhwng gwerth a phris. Cyfeddyf yr Athro iddo adael allan gwestiwn syniadau ffiniol. Anffodus yw hynny oherwydd ei le canolog yn y mwyatfrif o ysgrifau ar Economeg heddiw, a hefyd hoffem wybod barn yr Athro arnynt. Y mae'n amlwg na chred fel y mwyafrif o awdurdodau heddiw ar Economeg. Ar rai pynciau syifaenol gwahaniaetha'r awdur oddi wrth y rhan fwyaf o Economyddion heddiw, nid yn uni'g yn ei safbwynt ond hefyd yn ei gasgliadau. Dyma allwedd i'w syniadau (td. 118): Fe welir nad i brinder tir na chyfalaf ac nid i ddiffygion meddyliol a moesol yr ymgymerwr ychwaith yr wyf yn priodoli enillion bychain ac an- sicr lluoedd mawr o'n cyd-ddynion ym mhob gwlad, ond i sefydl- iadau ac arferion gwladwriaethol ac arglwyddiaethol a rwystrodd drwy'r oesoedd ryddid pob dyn i ennill ei fywoliaeth ar y tir heb dalu teyrnged i tfeistr, ac a osododd nod gwreng a thaeog ar dalcen y llafurwr." Cred yr Athro mai'r cwestiwn canolog yw cwestiwn y tir, a bod ei ddeall yn hanfodol i amgyffred amgylchiadau cymdeitíhasol unrhyw gyfnod. Ni chododd cyfundrefn economaidd heddiw o'r cysylltiad syml rhwng y tyddynwyr a'r crefftwyr, ond cymerodd twyll, treánu a llyw- odraeth eu rhan yn y datblygiad. Deil yr awdur na ddylai economyddion roi ystyr wahanol i Gyf- alaf oddi wrth ei ystyr bob dydd. Meddiannau manteisiol, neu yn fwy penodol, hawliau a chyfleoedd i ennill elw heb lafur neu dros ben tâl llafur a'r costau angenrheidiol ydyw'r ystyr a roddaf felly i gyfalaf (td. 49). Ond beth yw'r costau angenrheidiol "? Onid yw elw cyfalaf yn gost angenrheidiol? Dyfynnaf eto Ennill o natur llog ydyw elw cyfalaf elw clir a thros ben (costáau) (td. 130). Nid cyfalaf yw'r unig derm a gafodd Economeg o iaith arferol gan roi iddynt ystyr deohnegol. Mae'n debyg na fuasai'r tyddynwr, y ffermwr, y siopwr, na'r masnachwr yn cydsynio ar ystyr bob dydd y gair cyfalaf. Anodd fyddai cael ystyr i'r gair a gydfynno pawb. Nid aeth yr Athro Roberts dros yr anhawster. Saif ei ddiffiniad am feddiant yn fwy nag am natur y cyfalaf. Yn sicr, oamarweiniol a fyddai cynnwys Dyled Genedlaethol mewn cyfalaf, tfel y gwnâ'r darnodiad uchod, a llawn mor gamarweiniol yw cadw pethau fel ffyrdd (na ddygant elw i unigolion) y tu allan. Fel y dywaid yr awdur ar y dechrau, damcaniaethol ac nid dis. grifiadol yw ei driniaeth o'r testun. Efallai y tynn hyn oddi wrth ei ddiddordeb i'r darllenydd cyffredin, er y dylai apelio at y myfyr- iwr â chanddo eisoes ychydig o wybodaeth am Economeg. Teimlem y geilw'r driniaeth hon am lyfr mwy a llawnach. Arfer yr Athro ei dermau Cymraeg yn dda, ac yr ydym yn ddyledus iddo am ddangos y ffordd mor eglur dros yr anhawster hwn. Y mae'r iaith yn glir a deallus ar y cyfan, er yn anodd mewn rhannau oherwydd natur y testun.