Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Er y gallem anghydweld â llawer o gasgliadau pwysig yr Athro, gwnâ'r llyfr inni feddwl, a deffry ymdrafod. Metha cryn lawer o lyfrau ac awduron â gwneuthur hynny. Ac am y rheswm hwn yn unig dylai'r llyfr apelio yn gryf at ddosbarthiadau pobl mewn oed. ECONOMEG AMAETHYDDIAETH: Morgan Jones, M.A. Cyf- res y Brifysgol a'r Werin. Rhif 3. Fel y dywaid yr awdur yn ei Ragarweiniad, effeithiwyd ar Am- aethyddiaeth yr hanner canrif diwethaf 'gan wybodaeth wyddonol. Cymhwyswyd Economeg at broblemau Amaethyddiaeth a gwneir llawer o waith pwysig yn y cyfeiriad hwn yn Aberystwyth a lleoedd eraill. Ffrwyth datblygiadau o'r fath yw'r llyfr hwn, a chwanega hyn at ei ddiddordeb i'r myfyriwr ac at ei werth ymarferol i'r fferm- wr. Ym myd cystadleuaeth heddiw anturiaeth yw ffermio, ac yn oes y cludo cyflym a'r cydymgais byd-eang, rhaid i'r ffermwr ymroi i wrteithio'n egniol ar linellau anghystadleuol. Gwir a ddywaid yr awdur hwn y byddai astudiaeth mwy cyffredinol o Economeg Am- aethyddiaeth ac ymarfer meddylgar o'r egwyddorion o werth mawr i'r diwydiant. Ond saif ceidwadaeth draddodiadol y ffermwr ar y ffordd, ac efallai mai dim ond adtfyd economaidd a'i deffry ef. Rhennir y llyfr i chwe rhan yn cynnwys rhannau llai, a cheir pennod ar y diwedd ar Amaethyddiaeth a'r Wladwriaeth." Ym- drin y tair rhan gyntaf ag elfennau cynhyrohu, — y tir, llafur, cyf- alatf, a chredyd. Yna daw adran ar drefniadau mewnol y fferm, cyn i'r awdur drin prisiau a marchnata. Gwelir doethineb yr awdur yn cyfyngu cylch yr ymdrin, ac y mae'r arddull yn syml a chlir drwy'r llyfr. Ni leddir diddordeb y darllenydd gan ormod o fanylion, a chyrraedd yr awdur ei gasgl- iadau yn naturiol ac anorfod. Dylai'r darllenydd mwyaf cyffredin ddilyn yr ymresymu heb anhawster yn y byd. Trwy'r llyfr cedwir mewn golwg y problemau ymarferol a wyneba ffermwyr Cymru. Nid damcaniaeth sydd yma. Er enghraifft, dygir cwestiwn rhent a phris tir (td. 17-26) i gyswllt agos â phrofiad fferm- wyr yng Nghymru. Rhoir lle amlwg i broblemau'r tyddynwr, ac wynebir anawsterau angen llafur .tymhorol, dosrannu llafur, arfau fferm, a goruchwyliaeth gwaith. Un o'r anghenion mwyaf, yn ôl Mr. Jones, yw dosbarthiad gwell 0 lafur ar y fferm, ac arolygiaeth fwy meddylgar ar y gwaith dros y flwyddyn i gyd. Ni ddaw llwyddiant o ddosbarthu gwaith rhywffordd rhywsut. Dywaid Mr. Jones y dioddef y ffermwr lawer o ddiffyg credyd. Yng Nghymru y mae gormod o lawer o ber- thynas rhwng diwrnod gwerthu stoc a diwrnod talu'r rhent, a di- gwydd y gwerthu hwn yn aml pan fo prisiau'r farchnad ar eu hisaf (td. 53). Cyll y ffermwr ryddid i tfarchnata pan fynn. Yn nhrefniadau mewnol y fferm y broblem fwyaf vw darganfod y cynnyrch i ddeilliaw orau o'r fferm honno ac o'r üáfur yno. Cyn- hyrcha'r fferm fach fwy yn ôl yr acer, ond llai yn 61 y dyn, na'r fferm fawr. Tuedda Mr. Jones i gredu mai cynnyrch yn ôl pob llafurwr ac nid yn 61 yr acer yw'r safon i fesur cynnyrch. Wrth gwrs, gellir troi'r líafurwr ar fferm fawr i waith arbennig, a gwneuthur mwy allan o'r cyfalaf. Felly disgwyliem tfwy o gynnyrch am ibob unit o ymdrech economaidd allan o'r fferm fawr nag o'r fferm lai. Ar y Uaw arall, cynnyrch am bob acer yw, y mae'n debyg, y satfon gorau i'r fferm fach, Ue gweithia'r teulu. Camarweiniol tfelly yw cymhar-