Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iaeth rhwng cynnyrch y fferm fawr a'r fferm fach; nid ellir cael safon a wnâ i'r ddwy. Trin Mr. Jones y symud mewn prisiau neilltuol ac mewn prisiau cyffredinol. Ceir tri math o'r cyntaf a enwyd-newid a ddaw ar gylch, newid blynyddol a newid tymhorol. Penderfynir hwy yn bennaf gan amgylchiadau cyflenwad, ac nid gan amgylchiadau'r galw, gan fod y galw yn weddol sefydlog ac anhydrwydd (inelastic). Mae'r moddion yn nwylo'r ffermwyr eu hunain i raddau helaeth, a noda'r awdur ffyrdd i wneuthur prisiau yn fwy setfydlog, — e.e., mwy o gydweithrediad ymysg y ffermwyr, cyhoeddi yn fwy eang amgylch- iadau marchnadol a phrisiau, a chadw'r cynnyrch am gyfnodau lle bydd hynny'n îbosibl. Dylai'r rhan hon fod o ddiddordeb neilltuol i ffermwyr. Y mae rheoli newid prisiau cyffredinol allan o law y fferm- wr. A ydyw hefyd y tu allan i lywodraeth y wladwriaeth? Diddorol iawn yw'r adran ar farchnata, a' dylai ffermwyr ei dar- llen. Pwysleisia'r awdur yr angen am gydweithrediad mewn march- nata, er ei fod yn fyw i'r anawsterau. Llyfr campus yw hwn, mewn arddull syml a chlir. Y mae'r rhestr werthfawr o dablau a wasgarwyd drwy'r llyfr yn ddefnyddiol a dealladwy i'r darllenydd cyffredin. Cynnwys y llyfr hefyd lyfrydd- iaeth a mynegair defnyddiol. Teimlwn y gallasai Mr. Jones ddilyn rhai rhannau ymhellach-e.e., credyd a graddio cynnyrch y fferm. Ond tebyg yw mai yn tfwriadol y gadawyd rhai pethau allan. A allwn edrych ymlaen am 'gyfrol arall ganddo cyn bo hir? Coleg Harlech. D. W. ROBERTS. TALHAIARN. Detholiad o Gerddi. Golygwyd gyda Rhagair gan T. Gwynn Jones. Gwasg Aberystwyth. 1/6. Yr haf diwethaf safwn wrth garreg fedd Talhaiarn. Byth er pan ddarllenaswn, yn hogyn, ei feirniadaeth graff ar englyn "antfarwol Gwallter Mechain Nos dywell yn distewi," bu gennyf fwy o feddwl ohono na'r un o feirdd ei oes. Cofiaf fel yr edrychwyd arnaf fel petai cyrn ar fy mhen gan rai o'm cyd-efrydwyr ym Mangor am i mi daeru fod yn llawer gwell gennyf ei ganeuon na rhai Ceiriog, a'i fod ef y ibeirniad llenyddol gorau a welodd Cymru yn y iganrif ddi- wethaf. Tyfasai mwsog tros y garreg, ond yr oedd medaliwn o'r bardd yn glir a glân ar y golofn. Fel un wrth orchwyl cysegredig iawn cymerais fy nghyllell a chrafu'r mwsogl oddi ar y rhan o'r ysgrif a orchuddid ganddo. Dyma a ddarllenais Y maen hwn guddia mewn hedd-brofedig Brif awdwr o Wynedd. Ow rifo bardd mor rhyfedd Addfwynaf ŵr i ddwfn tfedd. Ei barodlawn bêr hyawdledd — a'i fyw Gyfoethog arabedd, A'i gân gwyd ei ogonedd A'i fawl byth uwch gafael bedd. — Islwyn. Er darogan Islwyn, tyfodd cryn lawer o fwsogl tros enw Talhaiarn yng nghof ei gydwladwyr hefyd gyda threigl y blynyddoedd, ond heddiw dyma wyr fel yr Athro Gwynn Jones a'r Athro J. Glyn Davies yn myned ati i'w glirio. Gyda pha lawenydd y gwelais bellach fod beirniad mor gatholig a chynnil â Mr. Gwynn Jones yn cyhoeddi am