Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dalhaiarn ei fod fel cyfansoddwr caneuon yn rhagori ar Geiriog, a'r unig reswm fod gwaith Ceiriog yn fwy adnabyddus na'r eiddo ef yw ei fod ef yn fwy gofalus na Thalhaiarn rhag cyffroi rhagfarnau pobl." Yn wir nid hawdd a fuasai i Dalhaiarn osgoi cyffroi rhagfarnau ei gydwladwyr, hyd yn oed pe'tai'n llai o ymladdwr yn erbyn hym- byg," oherwydd treuliodd ran helaeth o'i oes yn Lloegr a Ffrainc, ac yr oedd yn y gwledydd hynny lawer mwy o'r ansoddau oedd yn ei gymeriad yntau. Ceidwadwr, ac Eglwyswr, a Militarist ydoedd, ac ymhyfrydai yn oferedd llawen y dafarn. Y gwahaniaeth mawr rhyngddo a'r rhan fwyaf o brydyddion Cymreig y ganrif ddiwethaf yn y peth olaf yma oedd ei fod ef yn cyfaddef hynny'n blaen, ac yn fynych yn ymorchestu ynddo, fel ygwnâ'r Ffrancwr. Gwych y symia'r Athro Gwynn Jones ei fywyd i fyny yn ei ragym. adrodd diddorol i'r detholiad hwn Dyna, y mae'n debig hanes bywyd Talhaiarn, — rhagfarn gref yn ymladd â thirionweh natur, ffol- ineb yn ymladd â ffilosoffi; afiaith wyllt ac awydd angerddol am glod a chanmoliaeth ysbeidiau o edifeirwch a phrudd-der. A chilio o'r diwedd i'r dirgelwch mawr, ohono'i hun, am fod ei faich wedi anynd yn fwy nag y gallai ef ei ddwyn yn hwy. Yr oedd rhywbeth yn ddis- glair ac yn hoffus ynddo, ynghanol ei wendidau i gyd; nid yw ei .gerddi serch na choeg na di-gywirdeib, ac y mae mwy o synnwyr yn ei lol nag a dybiodd y rhai a fyddai'n gorffen ag ef drwy ei alw yn hen lolyn.' Ymddengys i mi tfod y detholiad o'i ganeuon yn un rhagorol. Cewch farddoniaeth Talhaiarn ar ei gorau yn y 'gyfrol fach hon, — Talhaiarn heb ei literary baggage." Oni allai Gwasg Aberystwyth ychwanegu at ein dyled iddi trwy roi inni gyfrol arall o ddetholion o'i brôs direidus ond synhwyrol? Ni fedraf feddwl'am neb'cymhwysaoh i ddethol a golygu y rheini eto na'r gwr a sgrifennodd y darn o brôs perffaith a ddyfynnais o ddiwedd y rhagymadrodd i'r gyfrol bresennol. BURNS AC INGOLDSBY YN GYMRAEG. Tri darn gan John Jones (Talhaiarn), wedi eu newid gan J. Glyn Davies. Hughes a'i Fab, Wrecsam. 1/3. Yr oedd gan Dalhaiarn ddawn arbennig i ddigio ei gydwladwyr, ac i dynnu hyd yn oed y ibeirdd fel nyth cacwn yn ei ben. Onid oedd y oceadur powld yma nid yn unig yn potio fel hwythau, ond yn cy- hoeddi ei hoffter o fywyd y datfarn oddi ar lwyfan yr Eisteddfod, fel peth i ymorchestu ynddo? Yn wir âi'r cnaf mor bell â dweud yn wyneb-agored fod yr hen 'beniUion a glywai gan Sam y teiliwr a Huw Huws y gof, a John Davies y clochydd yn y Black Lion," yn an- hraethol well barddoniaeth nag awdlau hirwyntog a bugeilgerddi ffurfiol prifeirdd y dydd, gyda'u harddull chwyddedig a'u pentwr geiriau cyfansawdd addurnawl." Fyth o'r fan yma," meddai, mi gurwn fy nain yn y Uawr o lawenydd, pe ihawn yn gallu gwneud penillion fel yna. Buaswn yn falchach o fod yn awdwr y penillion yna na'r oll a gyfansoddais yn ystod fy mywyd." Nid anodd i ni erbyn hyn ddywedyd Amen," pan gymharer rhai o awdlau a phryddestau beirdd y genhedlaeth honno ag un o'r hen benillion telyn, megis A mi'n rhodio mynwent eglwys Lle 'roedd amryw gyrff yn 'gorffwys, T'rawn tfy nhroed wrth fedd f'anwylyd,- Clywn fy nghalon fach yn syflyd."