Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. DYLANWAD DR. LEWIS EDWíARDS AR FEDDWL CYMRU.* Y MAE'N debyg mai ychydig heddiw sy'n darllen gweith- iau Lewis Edwards ar wahân beth bynnag i rai o'i Draethodau Llenyddolr-ac efallai y bydd llawer yn barod i ofyn beth yn y byd a wnaeth ef i ennill cymaint enw iddo'i hun, beth wedi'r cwbl oedd ei gyfraniad i fywyd ei genedl?" Wrth gwrs, fe ddibynna'r ateb i raddau ar safle'r gofynnydd. Hawdd mewn cymhariaeth yw deall pwysigrwydd Lewis Edwards yn hanes enwad y Method- istiaid Calfinaidd. Onid ef i raddau mawr sy'n gyfrifol am sefydlu'r Fugeiliaeth yn ein plith, a'r Gronfa-hynny yw, am newid mawr ym mheirianwaith y Cyfundeb ? Deil fy nghyfaill, y Parchedig John Roberts, mai Lewis Edwards a wnaeth fwyaf i Bresbytereiddio ein henwad- nid bod pawb, wrth gwrs, yn meddwl y dylid ei ganmol am hynny Dro arall, wrth ddarllen hanes y ffrae rhyng- ddo ac Emrys ap Iwan, bydd pobl fel myfi sy'n rhoi pwys mawr ar barhâd yr iaith Gymraeg yn teimlo'n bur ddig wrtho am daflu ei ddylanwad mawr o blaid yr "Inglis Côs yn ein mysg. Teg er hynny fyddai inni gofio bod gwladgarwyr amlwg o enwadau eraill, megis David Rees Llanelli, wedi gwneuthur yn union yr un peth, ac mai llefain yn y diffeithwch yr oedd gwyr fel Emrys ap Iwan yn yr oes honno. A thrachefn, wrth chwedleua â rhai sydd yn cofio Lewis Edwards, ac yn fwy fyth wrth ddarllen llythyrau a dyddiaduron sydd eto'n anghyhoedd, daw dyn i glywed cryn lawer am y pridd a oedd yng nghyfansodd- iad y ddelw aur; awgrymiadau o fychander, o ysbryd pen- *Sylwedd anerchiad i Undeb Myfyrwyr y Bala, Gorffennaf 6, 1931.