Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHAI YSTYRIAETHAU AR YR ATGYFODIAD. ATGYFODIAD y cnawd a ddysgai'r Tadau, a chynhwysai'r athrawiaeth y manylion gwrthunaf. Yr oedd y gwallt a'r ewinedd a phob organ yn y corff dynol i ddyfod i fyny o'r bedd. A dyma'r ddamcaniaeth a ddysgid bron ymhob gwlad ar ryw adegau neu'i gilydd. Dysgir hi'n groyw yn y Koran. Credai'r Persiaid hwythau y ddamcaniaeth, a dywedir mai o Bersia y daeth i Balesteina. O ba Ie byn- nag y daeth y mae iddi Ie amlwg iawn yn llên y Rabbin- iaid Iddewig, ac o'u llên hwy daeth drosodd i lên y Tadau ac o lên y Tadau drachefn daeth i lên ysgolwyr y canol oesoedd, ac wedi hynny drwy do ar ôl to o ddiwinydd- ion fe'i trosglwyddwyd i'r oesoedd dilynol; ac fe ddych- myga llawer o bobl dda heddiw fod y ddamcaniaeth yn athrawiaeth Gristnogol. Hyd ryw fesur fe'i ceir yn ein hemynau, yn ein gweddiau, yn ein pregethau, a mynych yr argreffir y ddamcaniaeth ar ein cerrig bedd. Er hyn i gyd geilw gonestrwydd arnom i ddywedyd nad yw yn athrawiaeth Feiblaidd. Er ei phroffesu ar dafod, a'i phre- gethu gyda chryn hwyl ac arddeliad, nid oes neb ohonom yn ei chredu gyda dim argyhoeddiad. Prin, efallai, y mae angen dywedyd nad oes dim sail iddi yn Job xix. 23-27. Camgyfieithiad a geir yno. A hyd y gwelwn nid oes air yn unman yn y Testament New- ydd chwaith am atgyfodiad y cnawd, atgyfodiad y corffyn marw o'r bedd. Am atgyfodiad y meirw, neu atgyfodiad oddi wrth y meirw, neu atgyfodiad y rhai a hunasant, pa beth bynnag a gynhwysai'r syniad, y sonia'r Beibl. Dyn di-ddeall y geilw Paul y neb a ddisgwyliai am atgyfodiad llythrennol y corff o'r bedd. Onid oes angen ail-daflu'r erthygl ar yr Atgyfodiad yn ein Cyffes Ffydd a mynegi'r athrawiaeth mewn termau newydd a gwell? Byddai at- gyfodiad corff yn well geiriad, medd un, nag atgyfodiad y corff, canys nid y corff a roir yn y pridd yw'r corff a ddaw i fyny. A deil rhai nad yw hyd yn oed atgyfodiad