Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NOSON YN LLWYDLO. Ac a ddaeth ar ddamwain i fangre ac a letyodd yno dros nos." Y mae pawb erbyn hyn yn rhodio, a cheir llawer math ar rodio. Y dull uniongred, wrth gwrs, yw myned i dref hys- bys ar lan y môr, neu yng nghyrraedd y ffynhonnau, ac aros yno bythefnos, mwy neu lai, a cherdded yr un llwybr- au, ac eistedd ar yr un meinciau, ac edrych ar yr un bobl a golygfeydd y naill ddiwrnod ar ôl y llall. Nid yw'r dull hwn yn goglais fawr ar fy ffansi i, ond y mae iddo'i fantais-byddwch wedi llwyr ddiflasu ar eich gwyliau cyn y diwedd ac yn awyddus iawn i ail afael yn eich dyletswyddau. Coron y cwbl yw'r daith adref. Gwell gennyf i y daith gron, y circular tour, y daith sy'n dechrau ac yn diweddu yn yr un fan, sef wrth ddrws y ty. Waeth i neb heb a gofyn i chwi cyn cychwyn. I b'le 'r ydach chi'n mynd ?" Ni ellir ateb. Ni wyddoch yn iawn. Gobeithiwch weled dinasoedd teg, ardaloedd hyf- ryd, mynyddoedd uchel, rhaeadrau ac afonydd, dyffryn- oedd, glynnoedd, glannau, ond hyd yn hyn y mae'r cwbl ym mro disgwyl a dychymyg. Yna cychwyn yn fore fel y cychwynnodd Abraham, heb wybod i ba le yr oedd yn myned." Er bod gan yr oes gyflym hon bob hwylustod i symud o'r naill fan i'r llall, eto nid oes nemor gynnydd yn yr art o deithio er dyddiau'r patriarch. Yr oedd ef gartref ym mhobman, a phob diwrnod yn ddiwrnod gwyl. Onid oes rhyw swyn yn y disgrifiad o'i ymdaith ? Ac Abram a dramwyodd trwy y tir hyd Ie Sichem, hyd was- tadedd Mamre." "Ac Abram a ymdeithiodd gan fyned ac ymdaith tua'r dehau." "Ac Abram a symudodd ei luest." "Ac Abram a aeth oddi yno i dir y dehau." Always roaming with a hungry heart." Cychwynasom oddi cartre ar fore teg o Fai, ac wedi teithio ar hyd y dydd drwy wlad a oedd yn gwbl ddieithr inni, daethom ar ddamwain i Lwydlo, a pheth newydd inni oedd myned i mewn i dref ddieithr fel hyn yng nghanol storm o fellt a tharannau. Wedi sicrhau llety dros nos