Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PROBLEMAU MOESOL Y WLADWRIAETH. Dywaid James Evans yn ei lyfr ar Foeseg fod gorchwyl- ion y wladwriaeth yn gymaint o waith moesegol ag ydyw o wleidyddol. Ceisiwn felly sylwi ar y gwaith moesegol hwn o eiddo'r wladwriaeth yn ei berthynas â diwydiant, a'r problemau a gyfyd yn nygiad y gwaith ymlaen. Efallai mai priodol a fyddai inni ddechrau drwy ddi- ffinio beth a olygwn wrth y wladwriaeth. Nid peth hawdd yw rhoi diffiniad boddhaol, am y defnyddir termau fel gwladwriaeth, cenedl, cymdeithas, y community, etc., yn aml y naill am y llall. Pan fom yn meddwl am wladwr- iaeth, meddyliwn nid yn unig am y sefydliadau trwy y rhai y dygir y llywodraeth ymlaen, ond am y boblogaeth i gyd sydd y tu cefn i'r sefydliadau hyn ac yn dal eu breich- iau hwy i fyny. Ni ellir tynnu llinell derfyn rhwng y wlad- wriaeth fel sefydliad a'r genedl fel cyfangorff-y genedl fel corff yn ei mynegi ei hunan fel cyfundrefn lywodraethol yw'r wladwriaeth. Mae Sidwick yn ei lyfr Elements of Politics yn difnnio'r wladwriaeth fel corff o ddynion sydd yn un am yr ufuddha ei aelodau i'r un llywodraeth. Dywaid yr Athro Unwin mai'r gwahaniaeth rhwng y wladwriaeth a phob sefydliad cymdeithasol arall, megis teulu, plaid wleidyddol, neu enwad crefyddol, yw mai'r wladwriaeth yn unig sydd yn abl i ddefnyddio gorfodaeth neu rym i sicrhau ufudd-dod i'w gofynion; a'r hyn sydd yn rhoi hawl iddi wneuthur hynny, yn ôl MacIver yn ei lyfr The Modern State, yw mai hi'n unig sy'n gweithredu dros fath o gymdeithas na all neb ymddihatru o'i ymrwymiadau iddi. Ni fedr dyn wrth gwrs ddiddymu ei aelodaeth o'i deulu fel ffaith hanesyddol, ond gall wrthod mynd dan unrhyw gyfrifoldeb dros ei deulu. Y mae dyn at ei ryddid i adael ei blaid wleidyddol os anghytuna â hi. Ped anghytunwn â'r enwad y perth- ynaf iddo, gallwn ymddiswyddo. Ond pe gwrthodwn ufuddhau i alwadau'r wladwriaeth, buasai'n rhaid i mi un ai mynd allan o'r wlad neu fynd i garchar. Mae gan