Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU DIWEDDAR AR DDIWINYDDIAETH. (AIL YSGRIF). ARWAIN y cwestiynau a ystyriwyd olaf yn ein hysgrif gyntaf* yn naturiol at bwnc y Cymod (neu'r Iawn). Yn The Idea of the Atonement in Christian Theology (1920) ail gyflwynwyd yn gryf, gan y diweddar Ddeon Rashdall, ddamcaniaeth Abelard ar hyn. Dadleuai Rashdall nad dilys, yn ôl pob golwg, yr adran ar bridwerth ym Marc x. 45, nac ychwaith yr ychwanegiad er maddeuant pechodau at y dywediad yn y Swper Olaf a roddir ym Mathew, neu o leiaf na olyg- ant bod marwolaeth eih Harglwydd yn gymod dros bechod mewn unrhyw ystyr wahanol i farw rhyw arweinydd arall fel cyfrwng hyrwyddo ei achos. Daliai Rashdall fod dysg- eidiaeth ein Harglwydd ynghylch pechod yn berffaith syml,-sef yw hynny, mai "unig amod maddeuant yw edifeirwch a'r diwygio buchedd hwnnw sy'n dilyn gwir edifeirwch o angenrheidrwydd" (td. 25); a dadleuai mai'r unig ddylanwad er cymod y gellir ei gydnabod ym marwolaeth Crist, neu mewn unrhyw agwedd i'w waith Ef, yw'r un a weithreda drwy gynorthwyo'n wirioneddol i gynhyrchu'r edifeirwch a'r aileni moesol hwnnw ar yr hwn, ac ar yr hwn yn unig, yn ôl dysgeidiaeth bendant yr Athro Mawr, y dibynna maddeuant" (td. 48). Tybiai ef y dysgasai'r Iesu hynny'n fwy mynych ac yn fwy penodol, pe credasai Ef fod ei farwolaeth yn angenrheidiol i ddwyn ymaith 'bechodau'r byd, a hefyd na weddiasai yn yr Ardd am ei ryddhau oddi wrth y gorchwyl. Nid yw'r anawsterau hyn, fodd 'bynnag, yn rhai na ellir dyfod drostynt. Gellir cyfarfod y cyntaf drwy sylwi na allesid rhoddi'r fath ddysgeidiaeth nes i ddynion amgyff- red swydd y Meseia yn ei gwir natur; a gallwn yn hawdd gredu tystiolaeth yr Efengylau na ellid cyflwyno'r dat- guddiad hwn nes i'r Iesu fod wedi marw. Ac am yr ail bwynt, cydnabyddwn nad oes ateb i ddadl Rashdall wrth Gwel Y TRAETHODYDD, Gorff. 1931.