Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU. NEW TESTAMENT ETHICS. An Introduction by C. A. Anderson Scott, D.D. Hulsean Lectures, 1929. Cambridge University Press, pp. i. — viii. 1­147. 5/ Teilynga'r gyfrol hon le uchel ymysg y llyfrau a ymddangosodd yn ddiweddar ar Foeseg y Testament Newydd. Nid ydyw ond bychan o ran maint, ond y mae bron i gyd yn ebran pur, heb ddim us. Cyn. nwys y gyfrol chwech o ddarlithiau cymharol fyr, tair ohonynt ar ddysgeidiaeth tfoesol yr Iesu, dwy ar ddysgeidiaeth foesol yr Apostol Paul, ac un, y ddiwethaf o'r ch.wech, ar rai o agweddau ymarferol y pwnc. Pwynt pennaf yr awdur ydyw mai dysgawdr moesol oedd yr Iesu, ac nid deddfroddwr. Yn ystyr fanwl y gair, un tgorchymyn yn unig a gyhoeddodd, sef, Câr '-` Câr yr Arglwydd dy Dduw,' a Câr dy ,gymydog fel ti dy hun.' A'r hyn oedd yn wreiddiol ynddo fel dysgawdr oedd y lle canolog a llywodraethol a roddai i'r gorch- ymyn hwn. Oddi wrth hwn y derbyn pab gorchymyn a rheol arall eu hawdurdod. Yn niwedd y ddarlith gyntaf ceir elfeniad byr o ystyr cariad.' Dangosir mai camgymeriad .peryglus yw tybied mai math ar deimlad ydyw. Gallwn garu pobl na allwn eu hoffi. Dyfyn. nir yn y cysylltiad hwn eiriau y Barwn von Hügel — Christianity taught us to care. Caring is the greatest thing. Caring matters most.' Ac y mae caring, yn 61 Dr. Scott, yn elfen bwysig mewn 'caru.' Heblaw y Gorchymyn Pennaf hwn­‘ Câr,' ceir yn yr Etfengylau ddau fath arall o orchmynion. (1) Gorchmynion nad ydys i'w de- hongli mewn modd llythrennol, megis, Dyro i'r hwn a ofynno gennyt.' Os daw neb ataf fi, ac ni chasao ei dad, a'i fam, a'i wraig, a'i blant ni all efe fod yn ddisgybl i mi.' Ceir ymdriniaeth werthfawr ar y math hwn o orchymyn yn y drydedd ddarlith. (2) Nid yw'r ail ddosbarth amgen anogaethau neu gynghorion yn hytrach na gorchmynion. Ni orffwys y rhain ar awdurdod personol yr Iesu, nac ychwaith ar Ddeddf Cariad. Grym yr anogaethau hyn ydyw eu rhesymoldeb neu ganfyddiad y Cynghorwr o ansawdd yr amgylch- iadau dan sylw. Rhoddir yr enghreifftiau canlynol- Ceisiwch yn gyntaf deyrnas nefoedd,' Gwerth yr hyn oll sydd gennyt a dyro i'r tlodion.' Ceir sylwadau rhagorol ar y gwahanol fathau o orchmynion. Cryf- der yr awdur ydyw esboniadaeth. Ond nid yw yn agos cystal pan gais athronyddu a dangos ar ba seiliau y gorfîwys y gwahanol ddos- barthiadau o orchmynion, a'u perthynas â'i gilydd. Ni chaniatâ gofod imi wneuthur mwy na cyfeirio yn fyr at rai o'r anawsterau a awgrymir gan yr ymdriniaeth yn y ddarlith gyntaf. Dywaid yr awdur fod tri math ar awdurdod, sef, (a) awdurdod sy'n gorfodi, (b) awdurdod sy'n perswadio, ac (c) awdurdod a wireddir gan brofiad. Perthyn yr awdurdod a arferai'r Iesu i'r ail a'r trydydd math. Credwn y cytuna pawb â'r gosodiad hwn. Ond ychydig dudalennau yn nes ymlaen synnir ni yn fawr gan yr hyn a ddywaid yr awdur