Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EFENGYL YN OL IOAN, xi.­-xxi. Gyda Nodiadau Eglurhaol, gan y Parch. Richard Morris, M.A., B.D., Dolgellau. Llyfr- fa'r M.C. 3/ Yng nghwrs yr oesoedd tyfodd cnwd toreithiog o Esboniadau ar y rhan hon o'r Ysgrythur Lân. O ddyddiau Origen a Chrysostom cymerodd llu o awduron mewn llaw i egluro'r Efengyl gyfoethog hon, a'i chymhwyso at fywyd yr Egwys a'r^byd. Ac nid oes brinder ohon- ynt yn y Gymraeg ychwaith. Ond ni ddihysbyddwyd ei chynnwys, ac nid yw'r esboniwr olaf arni wedi ei eni eto. Mae gan Ysbryd y gwirionedd ychwaneg i'w ddwyn i'r golwg o'i haenau dyfnach; daw hynny yn nghyflawnder yr amser, a phan ddelo'r cenhedloedd yng- hyd, o'r Dwyrain ac o'r GorUewin, i gyd-íeddwl uwchben dirgelwch duwioldeb, yr Hwn a ymddangosodd yn y cnawd. Ac arwydd o gyd- nabod cynnydd datguddiad yw'r galw am Esboniad newydd ar Wers yr Ysgolion Sul am y ddwy flynedd hyn. Er rhagored cyfrolau'r Dr. Cynddylan Jones tybir bod gwybodaeth wedi ymberffeithio a barnau wedi ymgywiro er 1900, ac mai teg â deiliaid astud prifysgol y werin yn ein plith yw rhoi o fewn eu cyrraedd safle bresennol yr ymchwil am wir feddwl Duw yn y rhan hon o'r Beibl. Ar y Parch. Stephen George, M.A., y disgynnwyd i wneuthur y gorchwyl cyfrifol, ac efo a ddarparodd yr Esboniad ar y naw pennod cyntaf. Ond oherwydd gradd o lesgedd corff, galwodd am gymorth y cyn-Athro Morris i gwblhau'r bennod olaf o'r gyfrol gyntatf; ac yn naturiol yntau a ddewiswyd i barhau ymlaen, ac i sgrifennu'r ail gytfrol hon. Anodd tfuasai gwneud dewis gwell. Ym Mr. Morris caed gwr a dreuliodd ddarn helaeth o'i oes yn awyrgylch Coleg, ac ym myd esboniadaeth ysgolhedgaidd seiliedig ar íanylion iaith, hanes, ac athrawiaeth. Cawsai cyn hynny hefyd brofiad o fywyd a gwaith bugail eglwys, rhag ei demtio i osod y rhesel y rhy uchel i hyd gyddfau'r darllenwyr cyffredin, i dynnu eu cynhaliaeth o'r gyfrol Mae'r awdur yn adnabyddus drachefn fel perchen arddull loyw a rhwyddineb ymadrodd, i fedru dweud ei ifeddwl mewn ffordd eglur, ddarllenadwy, a swynol. Meddwl clir a sicr, gyda chwaeth lenorol, sy'n esgor ar ymadroddion dealladwy. Anffawd drychinebus yw bod galw am esbonio Esboniad A'r dall, wrth dywys rhai eraill o olygon gweiniaid, sy'n eu dwyn i ffos, a'u gadael yno. Rharweiniad byr sydd yma, oblegid mai ail gyfrol ydyw ar un llyfr, ac y cydolygir ag awdur y gyfrol gyntatf parthed y dystiol- aeth fewnol ac allanol mai'r apostol Ioan a biau'r Efengyl hon. Braidd yn ddyrys yw'r effaith o fod awduron yr Esboniad a'r Gwerslyfrau yn amrywio ar gwestiwn fel hwn, sy'n lliwio'r esboniadaeth ar ei hyd. Pan anghytuna'r doctoriaid, methu a wna'r bobl, os nad di- flasu hefyd mewn ambell achos. Trefyd Mr. Morris, yn ei Ragar- weiniad, Adroddiad Ioan o Anerchiadau'r Gwaredwr, Ail-ddyfodiad Crist, yr Ysbryd Glân, Dyddiad y Croeshoelio, a'r Mandeaid-y tybir gan rai bod eu Hysgrythurau hwy'n blaenori'r Efemgyl yn ôl Ioan o ran amser, ac felly o bosibl yn un o'i ffynonellau hi. Da hwyrach fu- asai ambell adran yng nghorff yr Esboniad ar baragraff neu ar bwnc, yn rhoi bras-olwg cyn dechrau manylu, ac yn cadw meddwl y darllen- wyr ar gynllun yr Etfengyl gyfan. Ni welir y goedwig, weithiau, gan amlder y coed yn ein hymyl. Rhy dueddol ydys mewn Ysgol Sul i aros gyda geiriau a brawddegau, yn fwy na chyda chynnwys para- graff neu bennod ar y tro. Arwain 'hyn i grwydro, ac o'r herwydd ychydig o'r dosbarthau sy'n llwyddo i fynd drwy'r maes i gyd o fewn yr amser gosodedig. Colled ddigymysg yw hyn. Oblegid Ue