Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bo neges benodol i'r Uyfr, yn athrawiaethol, ymarferol, ac ysbrydol (fel yma, xx. 31), rhaid mynd drwyddo 'gyd er mwyn profi gwerth a grym pob rhan ohono. Ac nid yw olyniaeth meddwl yr Efengylwr hwn yn eglur bob amser cyfrinydd ydyw yn fwy nag ymresymydd. Nodiadau Eglurhaol" yw is-deitl Mr. Morris i'w gyfrol. Ac etyb yr hyn a sgrifennodd yn hollol i'r ymadrodd. Amcanodd osod allan ystyr fanwl y gwreiddiol." Rhydd felly ei ran o'r cyfrifoldeb ar bob darllenydd. Nid yw'n gwneud gormod drosto. Ac y mae cyfieithiad newydd da'n fynych yn esboniad digonol hefyd. Gesyd ei farn ei hun yn groyw, a hynny'n ddidramgwydd a boneddigaidd. Ac nid anghofir yma fod dyn yn fwy na deall, er yn meddu hynny. Ni fedr neb fyw ar feirniadaeth. A'r hyn a wel y darllenydd drosto'i hun, trwy gymorth yr Esboniwr, sy'n aros yn etifeddiaeth iddo, ac yn faeth i'w fywyd gorau ac uchatf. Y Bala. T. R. JONES (Clwydydd). TAITH Y PERERIN. Gan John Bunyan. Wedi ei drosi i'r Gym- raeg gan E. Tegla Davies. Y Darluniau gan Carey Morris. Wrecsam Hughes a'i Fab. 1931. 344 td. 10/6. Pa sawl gwaith, tybed, y cyhoeddwyd Taith y Pererin yn Gymraeg? A pha sawl gwaith y troswyd ef o newydd i'n hiaith ni? Noda Llyfryddiaeth y Cymru bedwar argraffiad ohono cyn 1800. Y mae o'm blaen innau'n awr ddau gyfieithiad a gyhoeddwyd wedi hynny, a dichon bod llawer rhagor. Y naill yw hwnnw a gyhoeddodd Cymdeithas y Traethodau Crefyddol, argraffiad o'r rhan gyntaf yn unig. Y llall yw'r hyn a roddir yn y gyfrol fawr o Weithiau Bunyan a olygwyd gan Kilsby, ac a gyhoeddwyd gan William Mackenzie, gwr a gadwai fusnes yn Llundain, a hefyd yn Llynlleifiad, Caer- odwr ac Abertawy yn ôl wynebddalen ei argraffiad o Weithiau Williams Pantycelyn. Diddorol a tfyddai gwybod sawl Cymro a fu wrth y gwaith o wneuthur John Bunyan yn adnabyddus i'n pobl ni, heb anghofio rhywun a wnaeth gynt lyfrynnau fel hwnnw, Taith y Pererin i Blant." A oedd angen ceisio eto gyHwyno'r gwaith hwn i'r Cymro? Nid etyb Mr. Tegla Davies hyn ei hun dyry'r cyfrifoldeb o hynny ar ysgwydd cyfarwyddwr cwmni'r Meistri Hughes a',i Fab. Y mae'n bosibl i gyfieithydd fod yn rhy swil ni fyn Tegla roddi ar ôl ei enw, ar yr wyneb-ddalen, yr M.A. a gafodd gan Brifysgol Cymru, nac ychwaith Y Parchedig o flaen ei enw, na gadael i'r byd wybod, fel yr hysbysai awduron gynt, mai Gweinidog yr Efengyl ymhlith y Trefnyddion Wesleaidd yng Nghymru yw'r gŵr a latfuriodd mor ddyfal a diwyd gyda'r gwaith hwn. I gynorthwyo'r darllenydd i ateb y cwestiwn a oedd angen ar- graffiad newydd sbon, rhoddwn dri chyfieithiad o ddarn bychan ar ddechrau'r gyfrol. Fel hyn y sgrifennodd Bunyan y darn hwnnw, a dilyn yr argraffiad sydd gen i: OBSTINATE. Come then, Neighbour Pliable, let us turn again, and go home without him There is a Comfany of these Craz'd- headed Coxcombs, that when they take a fancy by the end, are wiser in their own eyes than seven men that can render a Reason. Yn ôl Kilsby CYNDYN sy'n siarad: CYN. Deuwch, fy nghymydog Meddal, ac ni ddychwelwn adref hebddo. Y mae Uiaws o'r dynion penwan hyn, y rhai, pan gymerant rhyw fympwy yn eu penau, ydynt ddoethach yn eu golwg eu hunain, na seithwyr yn adrodd rheswm.