Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn argraffiad Cymdeithas y Traethodau Crefyddol, fel yma: CYNDYN. Tyred, gymydog Meddal, dychwelwn adref hebddo: y mae myntai o ddynionach penweinion, y rhai, wedi mabwysiadu rhyw 'fympwy, ydynt ddoethach yn eu golwg eu hunain na seithwyr yn adrodd rheswm. Ond fel hyn y trosir y geiriau gan Tegla YSTYFNIG. Deuwch, felly, fy nghymydog Ystwyth, gedwch inni droi'n ôl eto, a mynd adref hebddo. Y mae cwmni o'r ynfydion pen- chwiban hyn yn bod, wedi iddynt afael mewn ffansi g°ifydd ei chyn- ffon, sydd yn gallach yn eu golwg eu hunain na saith o wyr a all adrodd synnwyr. Ac er mai darn a ddewiswyd ar antur yw hwn, dengys yn dda nodweddion a rhagoriaeth y cyfieithiad newydd; nid yw'n debyg y dywaid neb mai gwell yw'r hen yma. Y mae'n esiampl hefyd o fentro ail nodi enwau'r cymeriadau a geir yng ngwaith Bunyan. Cedwir enwau lleoedd adnabyddus fel Cors Anobaith, a Dinas Dis- tryw; ond adwaenir Bydol Ddoethyn bellach fel "Mr. Bydol Ddoeth," ac enwau cyfeillion Beelsebub yw yr Arglwydd Henddyn, yr Ar- glwydd Difyrrwch Cnawdol, yr Arglwydd Moethus, yr Arglwydd Chwant Gwag Ogoniant, a'm hen Arglwydd Trythyllwch, Syr Chwan- nog Barus." Swnia'r olaf yn dda am Sir Having Greedy, ac yn llawer gwell na Syr Gwanc-afael. Ond erys Mr. Cenfigen a Mr. Gwenieithiwr yr un o ran eu henwau yn y Praw. Dôl y Llwybr Esmwyth yw'r Bye-Path-Meadow, nid Gweirglodd y Gau-lwybr." A gellid llanw tudalen o welliannau cyffelyb, a ddangosant oll mor drwyadl y gwnaeth y cyfieithydd ei waith, ac mor hapus y llwydd- odd. Fe adawyd allan," meddir yn y Rhagair, "y rhigymau sydd yma ac acw yn y gwaith, gydag ychydig o eithriadau,-pan dybid eu bod yn hanfodol i rediad y stori. Nid ydynt, gan mwyaf, yn fawr mwy nag ail-adroddiad digon anghelfydd yn aml o'r hyn a adroddwyd yn gelfydd mewn rhyddiaeth eisoes." Dywedir hefyd ar dud. 185 y cedwir yn y cyfieithiad y "chwi a'r ti a ddefnyddir, y naill fel y llaÛ, gan gymeriadau Bunyan wrth iddynt annerch ei gilydd. Rhoddir dau neu dri tudalen o Nodiadau ar ddiwedd pob un o ddwy ran y gwaith; ond gadawyd allan o'r testun yr holl gyfeir- iadau at fannau o'r Ysgrythur, a da hynny, gan y sawl a tfynno fwynhau'r stori ei hun. Cyfrol hardd yw hon y print yn dlws, y rhwymo'n ddestlus, a'r darluniau'n wir ragorol. Cyfyngir yr Argraffiad i 1500 copi. Gwnâ anrheg gampus i gyfaill ond na synned neb os gwerthir pob copi'n fuan fuan. Dyna o leiaf a ddigwyddai yn Lloegr, pe cawsai'r Sais waith mor gain. YR YMARFER 0 DDUWIOLDEB gan LEWIS BAYLY wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg gan Rowland Vaughan 1630. Ad-argraff- iad. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 1930. xv., xxvi., 447 td. 10/6. Enw Syr John Ballinger sydd wrth y Rhagymadrodd i'r argraff- iad hwn, ond dywaid ef mai tri o aelodau staff y Llyfrgell Genedl- aethol a'i darparodd bu dau hefyd o'r tri yn darllen y proflenni a'u cywdro, a'r trydydd yn gofalu am yr argrafrwaith.