Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr oedd mwy nag un rheswm dros gyhoeddi adargraffiad fel hwn. Y pennaf yw fod tair canrif er pan gyhoeddodd Rowland Vaughan <ei gyfieithiad gyntaf; un arall yw'r angen am gopïau o glasuron rhyddiaith Cymru. Ond ni allwn ymatal rhag gofyn pam y defnydd- iwyd argraffiad ag ynddo gynifer o wallau argraff, pan oedd ar gael gopïau o argraffiadau ag ynddynt lai o waUau. Ac os mentro newid y ffurf hir o s am yr un tfer, tybed na ddylsid mentro rhagor a chy- wiro'r holl wallau neu o leiaf wneuthur rhestr o'r mannau lle dylsid cywiro? Ac os newid yr s, pam gadael j am yr ail i, a'r ffurf V am U, yn y dyfyniad o'r Lladin ar uchaf td. xxiv.? Eto y mae lle'n ddiau i ddwy farn ar hyn oll: yr unig gysondeb llwyr, y mae'n debyg, a íyddai printio'r adargraffiad linell am linell, a thudalen am dudalen o ran maint a diwyg, fel y copi gwreiddiol; a gormod fyddai disgwyl hynny heb dalu crodbrás amdano. Diolch a ddylem, a diolch yn gynnes iawn, i Wasg Prifysgol Cymru am ddwyn allan y gyfres adargraffiadau y mae'r gyfrol hon yn un ohonynt. Cyhoedder led-led y ddaear fod gennym Wasg Prif- ysgol ragorol, un deilwng o bob canmoliaeth a chefnogaeth. Dymunol bob amser i ymwelwr ar dro yw gweled gan aml wr silffiad dda, neu ddwy, o'r cyfrolau a gyhoeddir ganddi; a phurion peth a fyddai nodi hynny fel un cymhwyster anhepgorol, ymhlith eraill, mewn mab neu ferch i igynrychcoli sir neu gyngor ar Lys y Brifysgol. Ofni'r ydys nad ydym deilwng o ymdrech y Wasg hon. Os gweddus sylw o feirniadaeth, tybed na ddylasai'r Rhagym- •adrodd gyfateb o ran iaith i'r safon a osodwyd gan y Brifysgol yn y llawlytfr ar yr orgraff? Pe igwneid hynny, ni cheid dywed am dywaid;" ysgrifennid nid ymddangosodd yn lle ni ymddang- osodd," onid aethpwyd am oni aethpwyd" ac er bod" yn lle "er fod"; prin y rhoddid "hanu" a "hanai ac ni ddywedid chwaith i'w ymroi ei hun (td. vii.). Tybed hefyd a yw'n gywir arfer duwiol am ddim ond personau? gweithiau o natur dduw- iol" (td. x.) a bair gofyn hyn. Diddorol yw'r sylwadau ar deuluoedd Rhiwaedog a Chaergai, ac am Rowland Lloyd a Margaret Lloyd o'r Rhiwaedog, yn enwedig i'r neb a wyr rywbeth am y Bala a Llanuwchllyn. Ac wrth derfynu hyn o sylwadau, ni ddylid anghofio crybwyll y ceir Argraffwyd jm Mhrydain Fawr gan Gwmni'r Cambrian News, Cyf., Aberys. twyth ar waelod y ddalen a ddaw o flaen y Rhagymadrodd. Diolch i'r cwmni hwnnw am waith mor gain. Eto, oni fuasai'n well dywedyd yng Nghymru "? DYDD CALAN AC YSGRIFAU ERAILL. Gan Robert Beynon, B.A., Abercrâf. Llundain Gwasg Gymraeg Foyle. 9ς td. Nid oes awgrym yn unlle ar na chlawr nac amlen i'r gyfrol ddestlus hon tfaint yw ei phris. Dywedodd y diweddar Barch. O'Brien Owen unwaith am lyfryn a gyhoeddasid ganddo heb nodi ei bris ei fod yn amhrisiadwy; a dichon y bwriedid i awdur y llyfr hwn gael dy- wedyd yn gyffelyb am ei waith yntau. Ond gwelsom hefyd yn rhywle mai hanner coron yw pris y farchnad amdano. Enillodd yr awdur wobr yn Eisteddfod Treorci am y casgliad gorau o ysgrifau gwreiddiol, a cheir 16 ohonynt yma, pob un yn .amrywio rhwng 4 a 6 tudalen o ran maint. Yn groes i arfer rhai, nid enw'r ysgrif gyntaf a roir yn deitl i'r gyfrol; dewiswyd efalîai'r mwyaf hapus o'r testunau i fod ar y clawr. Ymhlith Methodistiaid Calfinaidd nid rhaid yw i Mr. Robert Beynon wrth lythyr cyflwyniad na chymeradwyaeth. Adwaenir ef