Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fel pregethwr pert iawn, a rhestrir ef yn olyniaeth y diweddar Barch. Evan Phillips. Gwyr llawer eraill hefyd amdano fel bardd. Bellach adwaenir ef ffel llenor hefyd. Melys moea mwy a ddywedir wrtho gan bob un a ddarlleno'r ysgrifau hyn. A bu mor ffodus yh ei enw bedydd fel na freuddwydiai neb am chwilio am ffug-enw iddo. Dichon yr amrywiai darllenwyr yn eu hateb pe gofynnid iddynt pa lith a hoffant orau. Mwynheais i'n arbennig yr hyn a draethid ar Dydd Calàn," Y Gadair Freichiau," Pysgota," Eisteddfod y Pentref nid rhesymau personol a esboniai hynny i gyd chwaith, ond .gweled dawn yr ysgrifennydd i bwyo mor sly yn awr ac eilwaith. Petai dyn yn beirniadu, fe ddywedad y teimla fod yr awdur mewn hualau weithiau; gedy'r argraff arnom y gallsai guro'r haeara gyda morthwyl trymach. Y mae yna un frawddeg hefyd na fydd pawb yn siwr o'i hystyr; ar dudalen 24, yn yr ysgrif Y Dyn yn y Stryd y mae: Ni bydd angladd hebddo, ac os am 'gael golwg arno, edrycher dan yr arch." Pan ofynnwyd imi gan rhywun arall a ddarllenodd y gyfrol beth oedd ergyd y frawddeg, nid oeddwn yn ddigon siwr i ateb yn bendant. CODI'R DDINAS: Hanesion Cenhadol. Gan y Parch. J. Ellis Jones, Gellifor, a'r Parch. Watcyn M. Price, Gwrecsam. Llyfr- fa'r Cyfundeb, Caernarfon. 1931. 139 td. 2/ Ymddangosodd y rhan fwyaf o'r hanesion yng ngholofn Aelwyd y Plant yn y Goleuad. Casglwyd hwy yma ynghyd, gan obeithio trwy hyn ddiogelu eu neges. Dodi meini yn Ninas yr Iôn yw ein hyder wrth eu cyhoeddi," meddir yn y Rhagair i'r llytfr hwn. Rhoddir 29 o benodau yma, a'r rheiny'n amrywiol iawn eu teitlau a'u cynnwys, gyda darlun neu ddau ynglŷn â ibron bob pennod. Dangos yr hyn a wnâ'r Efengyl yw'r amcan mawr sydd o flaen llygad y ddau awdur; ond y mae gwaith yr Efengyl iddynt hwy yn eang iawn, a dygir pynciau fel Heddwch a Sobrwydd a Dyngarwch i mewn i gylch y neges. Haedda'r gyfrol Ie ar bob aelwyd yng Nghymru. Pe meiddid beirniadu, gofynnem ai tybed a oes tuedd weithiau i ddwyn pethau i mewn i bennod y gallesid eu hepgor; ac eto dyry hynny gyfle i blentyn ofyn cwestiwn ac i rywun arall ymhelaethu ar sail yr hyn y cynnil gyfeirir ato. Sylwasom hefyd ar ychydig o wallau argraffu. Dyna Partia am Parthia ar td. 137, ond rhoddir yr enw'n gywir ar y tudalen nesaf. Gallesid hefyd wella ar frawddeg fel Bu Cynhadledd bwysig un adeg o afonydd y byd trwy symud yr un adeg i'w dechrau neu ei diwedd. Ac etfallai y dylsid rhoddi rhywbeth yn lie dar- ganfyddiadau ym myd goleuni pan geir Bu'n gymwynaswr mawr i'r byd trwyddynt yn dilyn ar sodlau hyn nid da defnyddio'r gair byd mewn rhagor nag un ystyr mewn dwy frawddeg olynol. Eto ar y cyfan y mae'r arddull yn rhyfeddol o syml a chlir, a'r braw- ddegau'n fyr a chryno. HANES SYMUDIAD YMOSODOL Y METHODISTIAID CAL- FINAIDD, gan y diweddar John Morgan Jones, Ll.D., ac Abra- ham Morris, F.R.Hist.S. Gyda Rhagair gan y Parch. Johtt Owen, M.A. Llyfrfa'r Cyfundeb. 1931. 140 td. 2/6. Cyfrol i ddathlu deugain mlynedd o waith y Symudiad Ymosodol a iberthyn i'r Methodistiaid Calfinaidd yng Nighymru yw hon, a dhyd- nebydd pawb a wyr hanes y mudiad hynod hwnnw ei fod yn un o'r