Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

pethau mwyaf godidog a gychwynnwyd gan ein Cyfundeb erioed. Rhwng Mad 1891 a'r flwyddyn 1911, sefydlwyd 57 o Ganolfannau, deuddeg ohonynt erbyn 191 yn hunangynhaliol, ac eraill wedi ymuno ohonynt eu hunain â gwahanol Henaduriaethau. Chwanegwyd canol- fannau eraill wedi hynny. Erbyn hyn, yn ôl yr adroddiad a gyf- lwynwyd eleni i'r Gymanfa Gyffredinol, ceir 60 o eglwysi a 4 cangen; rhifa'r aelodau eglwysig 7,636, aelodau'r Ysgolion Sul 14,458, a'r holl wrandawyr 26,755 costiodd yr adeiladau 1;227,765; ac y mae cyf- raniadau'r aelodau at bopeth yn £ г 17s. od. y pen. Tyfodd hyn oll o un babell igynfas a godwyd gan Dr. John Pugh ar y morfa yng Nghaerdydd. Ac oni bai am hyn tlodaidd a fuasai safle'r M.C. yn y ddinas honno ac mewn rhannau eraill o Ddeheudir Cymru, lle mae'r boblogaeth mor fawr. Yn naturiol rhoddir lle amlwg yn y gyfrol hon i Dr. John Pugh a'i waith. Ond nid anghofir eraill chwaith; gellir nodi'n arbennig o blith y nhai a hunodd bellach, Mr. Edward Davies, Llandinam, a'r Parch. Lewis Ellis, y Rhyl, dau o gefnogwyr mwyaf y Symudiad oddi ar ei sefydlu. Ac atynt chwaneger Dr. John Morgan Jones, Caerdydd. Gwelir yn eglur ddyled y Cyfundeb iddynt hwy ac eraill o gyffelyb ysbryd. Teflir golau diddorol iawn ar gymeriad John Pugh; wrth sôn amdano cyn ei droedigaeth dywedir Edrychid arno yr adeg hon fel un a chryn lawer o'r ffop ynddo." Hoffem glywed meddyl- egwr a adwaenai'r Doctor, yn trafod brawddeg fel hon yng ngolau nodweddion yr hen wr annwyl yn niwedd ei ddyddiau, pan dueddai, meddir, i sôn hyd yn oed pan nad oedd galw am hynny am yr hyn y llwyddodd ef i'w wneuthur yng Nghaerdydd a mannau eraill. Faint, tybed, o wendidau bore oes a fynn lynu wrth ddillad y saint hyd ddiwedd eu gyrfa? Am yr Hanes ei hun, er cymaint ei swyn, perthyn iddo rai meflau gweddol amlwg. Nid yw rywsut yn gyfanwaith. Atgoffa ni o broblemau llenyddol Llyfr yr Actau. Y mae iddo ddwy ran go eglur. Y mae'n weddol amlwg mai Dr. J. Morgan Jones a sgrifen- nodd y chwe phennod cyntatf yno, ys dywedai ysgolheigion y Testa- ment Newydd, ceir adrannau ag ynddynt y person unigol cyntaf ni," ac yn wir mi amryw weithiau. Cymerwn yn ganiataol mai Mr. Abraham Morris yw awdur yr ail ran. Gwyddir bod Mr. Morris yn wael ei iechyd ers amser y mae'n siwr mai hynny yw un rheswm pam na fentrwyd ail böbi'r rhan gyntatf a'i chymhathu'n llwyrach â'r ail ran. Ac eto y mae'n rhaid cydnabod y collasid felly beth o nod- weddion personol yr hanes fel yr adroddir ef gan ail Arolygydd y Symudiad. Canlyniad anocheladwy'r cynllun a gymerwyd gyda'r llyfr ydyw bod ynddo gryn lawer o ailadrodd pethau. Pe darparesid Mynegai i'r gyfrol, gwelsid hyn ar unwaith. Er enghraifft, ceir ar ddechrau'r seithfed bennod yr hyn a groniclir hefyd yn y bennod flaenorol. Edrycher hefyd y cyfeiriadau at Dreforris a Chastellnedd, a gwelir yr un peth; yn wir y mae mwy lawer o'r ailadrodd hwn nag a ddyl- asai fod. Ac wrth osgoi hyn gallesid rhoddi peth o hanes gwaith rhagorol yr Arolygydd presennol, y Parch. R. J. Rees, M.A. Hyder- wn y daw cyfle buan i ail gyhoeddi'r gwaith a hynny gyda thrydedd adran ar yx hanes o 1921 i 1931, deng mlynedd o oruchwyliaeth Mr. Rees. Ni sonnir amdano ef nes inni gyrraedd y tudalen olatf ond un. Eto, er nodi'r brychau hyn sydd ar y darlun (a gellid hefyd wella'r orgraff mewn ychydig o fannau), y mae'n bleser darllen y gyfrol drwyddi. Pryner hi a cheir noson ddifyr iawn gyda hi ar ddechrau gaeaf. Dyma gwestiwn neu ddau i'r sawl a deimla ddiddordeb dwfn