Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn Hanes y Corff chwilio am ateb iddynt yn y gyfrol a thu allan iddi: Beth a fuasai lle'r Cyfundeb yn Lerpwl heddiw, pe cawsai John Pugh ei ffordd a chodi neuaddau mawr yno? Am iba nifer o flynyddoedd y cyfrannodd Cymantfa Bresbyteraidd Lloegr swm syl- weddol at waith y Symudiad Ymosodol yng Nghymru? Beth yw dirgelwch poblogrwydd y casgliad yn Arfon at y Symudiad Ymos- odol oddi ar ei gychwyn cyntaf? Hir y par,haom oll i ddal breichiau'r gweithwyr ymroddgar sydd ar y maes heddiw; a help i hynny fydd gwasgar y gyfrol flasus yma. HEDDA GABLER (Henrih Ibsen). O Gyfieithiad Tom Parry, M.A., ac R. H. Hughes, B.A. Cyhoeddedig gan Gymdeithas Ddrama Gymraeg, Coleg y Gogledd, Bangor. Bangor Argraff- wyd gan Evan Thomas. 1930. 103 td. Amlen bapur. Pris 2/ Troswyd y Ddrama hon i'r Gymraeg ar gais Chwaraewyr Coleg y Gogledd, a phermormiwyd hi ganddynt yn Chwaraedy'r Sir, Bangor, Mawrth 5 a 6, 1930," meddir ar y tudalen cyntaf. Ac fel y gwyr llawer, nid dyma'r gyntaf o ddramâu Ibsen i'w chyfieithu ar gyfer y Gymdeithas hon. Tri mab a phedair merch sydd ynddi, a phedair act. Dichon yr amrywia'r beirniaid yn eu barn ar y cwestiwn a ellir actio gwaith fel hwn o eiddo Ibsen, a dileu'r argraff mai drama ydyw yn dangos bywyd sy'n wahanol mewn llawer peth i'r hyn a ellid ei alw'n nodweddiadol o Gymru, yn drwyadl wahanol hefyd. Ond gellir dywedyd yn onest dawn fod yr iaith yn y cyfieithiad hwn yn hynod ystwyth, ac nid gwaith hawdd yn ddiau ydoedd hyn. Darllen y cytf- ieithiad yn naturiol iawn. Ni all adolygydd nad yw yn gyíarwydd â'r gwreiddiol roddi'n deg farn derfynol ar ambell nodwedd yn y ddrama fel y mae yn ei gwisg Gymraeg. Ond tueddir dyn i ofyn ai da rhoddi Y?" mor aml ar ddiwedd brawddeg ar ddiwedd brawddegau gan George Tesman, neu yn ystod ei sylwadau ef, y daw, yn ddieithriad hyd y sylwyd. Ac felly dichon mai un o nodweddion y cymeriad hwnnw yw. Unwaith hefyd rhoddir druan fach (td. 6), ond druan bach unwaith neu ddwy yn nes ymlaen, y naill dro fel y llall mewn cyfeiriad at ferch. Tybed nad modraboedd a ddywedid yn yr iaith lafar (iaith Gwyn- edd a geir yn y cyfieithiad), ac nid modrybedd," er mai'r olaf a roddir yng ngeiriadur Bodfan? Gadawyd rhyw hanner dwsin neu ragor o wallau'r argraffydd hefyd heb eu cywiro; ond nid oes un gwall felly o bwys, a gwêl pob darllenydd gofalus hwynt ar drawiad. Da ydoedd cyhoeddi'r ddrama yn Gymraeg, a llongyfarchwn yn galonnog a chynnes y ddau gyfieithydd ar eu llwydd gyda'r gwaith. D.F.R. GREAT WELSHMEN OF MODERN DAYS. By Sir Thomas Hughes. Cardiff, Western Mail and Echo, Ltd. 1931. pp. 157. Price 3/ Cynnwys y llyfr hwn ddarlun a bywgraffiad byr o tua pedwar ar hugain 0 enwogion Cymru oedd yn adnabyddus i'r awdur, a diau y bydd yn dda gan liaws o gydoeswyr Syr Thomas Hughes weled ei lyfr a cael eu hatgoffa o britf ffeithiau hanes a nodweddion cymer-