Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iad y dynion a lanwai Ie mor amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru yn ystod eu hoes, eithr y sydd erbyn hyn wedi myned o'r golwg byth i ddychwelyd mwy ond mewn atgof. A da yw eu dwyn yn ôl fel hyn, rhag iddynt farw yn hollol, a rhag i sôn amdanynt ddarfod o'r tir. Dug y llyfr llawer o ddigwyddiadau yn fyw i'm meddwl a syllwn gyda hiraeth ar wyneb llawer gwr a lanwodd gryn Ie yn fy mywyd, a bywyd fy oes. Tybiaf y gall yr Iddew fod yn wrthrych cenfigen gan y Cymro ar gyfrií un peth yn arbennig, sef yw hwnnw fod enwau a hanes y tadau a greodd ei genedl mor gyfarwydd iddo. Pan fo Iddew yn gweddio ar Arglwydd Dduw ei dadau gwyr pwy ydynt hwy cystal ag y gŵyr am ei daid, a gwyr hefyd pa beth a wnaeth ei Dduw erddynt a thrwyddynt. Ond pan fo'r Cymro'n sôn am Dduw ei dadau, rhaid yw iddo fenthyca oddi ar yr Iddew. Ychydig a wyr am ei dadau Cymreig, nac am ddim a wnaeth Duw trwyddynt. Y mae gennyf gof byw am y tro cyntaf y ceisiais wein- yddu'r Ordinhad o Fedydd ar blant. 'Roeddwn wedi paratoi'n ofalus beth a ddywedwn ar yr amgylchiad; ond yr hyn a ddaeth dros fy nghenau oedd brawddegau a oeddwn wedi eu clywed ddegau o weith- iau ar amgylchiad cyffelyb: Bydded i'r Duw hwn, Duw dy dadau-Duw Abraham, Isaac a Jacob, fod yn Dduw i ti, ac i minnau Diolch am y tadau Iddewig; ond gresyn na byddai gennym hefyd dadau nes atom na'r rhain, gwyr y medrem, gyda hyder parod, gofio am eu ffydd a'u gwrhydri ar adegau cyseg- redig mewn bywyd. Y mae'r dynion y croniclir eu hanes yn y llyfr hwn yn ddigon mawr i'n plant a'n pobl ieuainc wybod amdanynt; ac yn sicr dylai eu gyrfa a'u gwasanaeth i'w gwlad fod yn destun ymffrost inni a'n plant, ac yn symbyliad i ymdrech. Hyderwn y derbynnir y llyfr i bob ysgol yng Nghymru ac y gwneir y plant yn gyfarwydd â'i gyn- nwys. Cyflwynir ef i'n sylw mewn rhagair hyawdl gan Mr. Lloyd George. CAREERS AND OPPORTUNITIES. Published by the Guild of Graduates by the University of Wales Press Board. 1931. pp. 109. Price 6d. Cwestiwn dyrys i rieni ydyw penderfynu pa alwedigaeth i'w dewis i'w plant. Cwestiwn pellach ydyw gwybod sut i gychwyn ac i ddilyn yr yrfa ddewisedig. A chwestiwn mwy fyth i'r mwyafritf ydyw sicrhau moddion i gyrraedd y nôd a osodir o'u blaen. Cyn- nwys y llyfryn hwn lawer o wybodaeth werthfawr ar y materion hyn. Bwriadwyd, ef yn y 11e cyntaf, ar gyfer efrydwyr y Colegau Cenedl- aethol, ond bydd o fudd i bawb sy'n wynebu'r cwestiwn o ddewis gwaith ei fywyd; rhydd help iddo tfwrw'r draul-mewn amser, llafur, ac arian-o ddilyn cwrs neilltuol; a dywaid wrtho pa ragolygon sydd y bydd y ffrwyth yn werth y draul. Clywyd cwyn yn ddiweddar nad oedd plant Cymru yn ymgeisio am swyddi o dan y Llywodraeth. Y mae adran helaeth yn y gyfrol hon ar y Civil Service. Ni !bydd gan neb Ie bellach i gwyno na wyddai am y gwahanol fathau o waith a gynygia'r Llywodraeth, y modd y mae dyfod o hyd iddo, a'r cymhwysterau a ddisgwylir mewn ymgeisydd amdano. Clywsom fod nifer efrydwyr y colegau medd- ygol yn lleihau ac y bydd prinder meddygon yn ystod y blynyddoedd