Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Nodiadau Cyffredinol GWELIR Y Traethodydd yma mewn diwyg newydd: newidiwyd ei liw a'i lun. Yn y Nodiadau a roddwyd ar ddechrau rhifyn Ionawr 1929, dywedid y bwriadai'r Bwrdd Golygu a gychwynnai ar ei oruchwyliaeth yr adeg honno, newid ychydig ar ei wisg a llawer ar ei gynnwys. Ceisiwyd o'r dechrau gyflawni'r ail o'r bwriadau hyn; tystied cynnwys y rhifynnau am y tair blynedd diwethaf i ba raddau y llwyddwyd. Ond am fwy nag un rheswm ni ddaeth y bwriad arall yn ffaith hyd y rhifyn hwn. Nid oes angen nodi yma, hyd yn oed pe caniatâi gofod, y rhesymau dros oedi newid y wisg. Y brif ddadl o blaid newid ydyw yr edrychai'r rhifynnau yn hynafol bellach, fel llawer peth a berthyn i'r oes o'r blaen; a chredwn yr hawlia cylchgrawn fel Y TRAETHODYDD ddiwyg sydd yn gweddu heddiw. Gyda'r rhifyn hwn gwelir newid arall hefyd, newid yn y Bwrdd Golygu. Penderfynodd y Pwyllgor Llyfrau, dan arolygiaeth yr hwn y cyhoeddir cylchgronau'r Methodistiaid Calfinaidd, y bydd- ai'n well cael Bwrdd o dri yn hytrach na phump. Nid hawdd, meddir, ydyw i bump o frodyr, rhai o'r De a rhai o'r Gogledd, gyf- arfod mor aml ag y dylai golygwyr cylchgrawn, 0 leiaf heb i hynny fyned yn gostus. Yn wir, ar awgrym Pwyllgor Gweithiol y Llyfrfa, bu trafod y cwestiwn ai onid gwell fyddai penodi un golygydd yn unig, fel a fu am flynyddoedd. Ond wedi ystyried y mater, cydolygwyd mai Bwrdd o dri Golygydd a fyddai orau, a bod un o'r tri i ofalu am ochr lenyddol y cylchgrawn. Wedi cytuno ar yr egwyddor hon, ymddiriedwyd i bwyllgor, a'r mwyafrif o'r aelodau, fel y digwyddodd, yn perthyn i gylch